Engreifftiau o Fentrau a Phrosiectau Cymunedol

Rhestrir isod enghreifftiau o brosiectau a mentrau ym Môn a Gwynedd sydd yn cydsynio â gweledigaeth SAIL. Os ydych yn rhan o brosiect neu fenter a fyddai â diddordeb cael eu cynnwys yn y rhestr cysyllter â post@sail.cymru.

Y Pengwern, Llan Ffestiniog

Prynodd y gymuned westy a thafarn Y Pengwern yn Llan Ffestiniog ac mae’r fenter gymunedol wedi rhedeg y busnes yn llwyddiannus am ddegawd bellach. Profodd Y Pengwern yn adnodd cymdeithasol a diwylliannol lleol pwysig ac hefyd yn adnodd economaidd gwerthfawr sy’n cyflogi 11 o weithwyr gyda chanran uchel o’r incwm a gynhyrchir yn cylchdroi’n lleol.

logo Tafarn yr Heliwr

Cymdeithas er budd y Gymuned sydd wedi llwyddo i brynu adeilad yng nghanol tref Nefyn gyda chyfranddaliadau gan dros 500 o bobl. Mae’r gwaith adeiladu wedi cychwyn gyda’r bwriad o agor caffi, bar a llety yn y dyfodol agos.

Mae Menter y Plu wedi prynu ac yn rhedeg Tafarn y Plu, Llanystumdwy fel menter gymunedol ac yn darparu gwasanaethau yn y gymuned.

caban cysgu Gerlan

Mae Caban Cysgu Gerlan yn cynnig llety fforddiadwy i grwpiau a theuluoedd wrth droed y Carneddau yn Eryri. Mae'n cael ei redeg gan gwmni cymunedol, felly gallwch fod yn sicr o groeso cynnes yma yn Nyffryn Ogwen.

Llety Arall Caernarfon

Llety yn Stryd y Plasg nghanol tref Caernarfon yw Llety Arall ar gyfer twristiaid a chyd-Gymry i gael profiad o dreftadaeth, diwylliant a natur ieithyddol Caernarfon. Mae amrywiaeth o opsiynau llety o fewn yr adeilad y gellir ei addasu ar gyfer grwpiau o ymwelwyr, gan gynnig naws syml ond a steil a gwasanaeth personol am bris rhesymol. Mae hefyd yn cynnwys siop a Lle Arall sy'n gofod ar gyfer gweithgaeddau.

Dangos Mwy

Y norm yn ein cymdeithas ni yw gweld dibyniaeth ar arian cyhoeddus a busnesau mewnblyg er elw. Os ydym yn credu mewn creu Cymru blaengar a theg credwn fod rhaid troi hyn ar ei ben a chreu model sy’n annibynnol o arian cyhoeddus ac yn gydweithredol yn y modd y gweithiwn. Defnyddwyd cynnyrch a llafur lleol ym mhob elfen o’r datblygiad. Nod hyn oll yw datblygu tref Caernarfon yn economaidd ac yn ddiwylliannol.

Yr Orsaf tu fewn

Mae prosiect Yr Orsaf yn cynnwys 4 elfen: caffi, gyda 30 sedd tu mewn a 20 tu allan; llety, gyda 8 gwely, gyda 14 gwely i ddod mewn adeilad arall ar y safle; Y Parlwr, ystafell cymunedol; canolfan ddigidol i bobl ifanc a'r gymuned. Mae Swyddog Datblygu a Marchnata Siop Griffiths yn trefnu gweithgareddau, yn enw y fenter neu ar y cyd gyda phartneriaid. Maen nhw'n cynnwys ffilm, cerddoriaeth, barddoni, gweithdai celf a rhyng-genedlaethau.

Dangos Mwy

Prosiectau

Sefydlwyd Siop Griffiths fel cymdeithas budd cymunedol yn 2016, i brynu hen ironmongers ym Mhenygroes. Prynwyd yr adeilad gydag arian y gymuned, ac ers hynny mae’r fenter wedi codi £900,00 i adnewyddu’r adeilad a datblygu prosiectau. Erbyn Mawrth 2020 cyflogodd Siop Griffiths 3 person, yn cynnwys un prentis digidol llawn amser.

 

Mae Siop Griffiths yn rheoli prosiect Trafnidiaeth Cymunedol Dyffryn Nantlle, ac maen nhw’n cyflogi cyd-lynydd i wneud hyn.

 

Mae’r fenter yn trefnu gweithdai a gweithgareddau yn y Ganolfan Ddigidol, yn cynnwys ffilm, codio, podlediadau a chelf digidol.

 

Gyda’i gyd-fudiad Dyffryn Nantlle 2020 (a sefydlwyd Siop Griffiths), mae hi’n trefnu gweithdai ffilm, celf a drama i blant a phobl ifanc.

Antur Stiniog

Sefydlwyd Antur ’Stiniog fel menter gymdeithasol ym Mehefin 2007 yn sgil derbyn addewidion o gefnogaeth gan dros 2000 o drigolion lleol oedd yn rhannu’r un weledigaeth. Y weledigaeth honno oedd datblygu potensial y ‘Sector Awyr Agored’ ym Mro Ffestiniog mewn dull cynaliadwy ac arloesol er budd y trigolion a’r economi leol.

Dangos Mwy

Y nod oedd datblygu a gwireddu’r weledigaeth hon yn ofalus gan sicrhau bod budd gwirioneddol i’r gymuned a bod ein diwylliant unigryw a’r diwydiant newydd yma’n plethu i greu datblygiadau cynaliadwy, arloesol, cyffrous ac yn fwy na dim, eu bod nhw’n gyd-oddefol.

Yn ardal Bro Ffestiniog mae yna gymuned o fentrau a busnesau cymdeithasol byrlymus, yn cynnwys Antur StiniogTrawsnewidSerenPengwern CymunedolCellBGwallgofiaidGISDADref WerddYsgol Y MoelwynOpra CymruDeudraeth cyfCaban Bach Barnados a Cyfeillion Croesor i enwi dim ond rhai.

Dangos Mwy

Maent wedi dod ynghyd i gyd-weithio er lles yr ardal gyfan, o dan parasol Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog, gyda’r nod o gynnig cyfleon cynaliadwy yn yr ardal. Cyfleon yn y sector creadigol, addysgol, gofal, amgylcheddol, adeiladwaith a thwirstiaeth cynaliadwy. Cefnogaeth gwirioneddol, mwynhad, hyfforddiant, a chyfleon gyrfa yn nes at adra. 

Swyddfa Partneriaeth Ogwen

Menter gymdeithasol sy’n datblygu prosiectau sy’n dod a budd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i Ddyffryn Ogwen yw Partneriaeth Ogwen. Ers ei sefydlu yn 2013, mae’r Bartneriaeth wedi datblygu nifer o brosiectau adfywio sylweddol yn cynnwys sefydlu cynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen, datblygu Siop Ogwen a datblygu nifer o asedau cymunedol ar y Stryd Fawr ym Methesda. 

Dangos Mwy

Prosiectau diweddaraf Partneriaeth Ogwen yw trosglwyddiad Llyfrgell Bethesda i ddwylo cymunedol, datblygu Cadwyn Ogwen – rhwydwaith newydd i werthu a danfon cynnyrch yn lleol a datblygiad prosiect Dyffryn Gwyrdd – prosiect arloesol i daclo tlodi trwy weithredu amgylcheddol cymunedol.

Antur Aelhaearn yw’r IPS gymunedol hynaf yn y Deyrnas Unedig. Fe’i sefydlwyd ym 1974. Rydym yn falch o’r ffaith hon a bod y cwmni wedi’i wreiddio yn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Er 1974 mae’r Antur wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu er mwyn hybu llesiant a buddianau’r trigolion.

Mae gan yr Antur 170 aelod ac mae’r mwyafrif ohonynt yn byw ym mhentref Llanaelhaearn. Tra bod gan bob aelod hawl pleidleisio mae’r fenter yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Ymddiriedolwyr (y ‘Senedd’).

Dangos Mwy

Mae llu o fentrau wedi eu datblygu o fewn adeilad yr Antur dros y blynyddoedd. Rydym yn parhau i gefnogi busnesau lleol trwy gynnig lleoliad hwylus a economiadd iddynt o fewn yr uned. Ein gobaith wrth symud ymlaen tua penblwydd yr Antur yn hanner cant yw datblygu capel y Babell yn unol a dymuniadau y gymuned, parhau i gefnogi gwasanaethau lleol megis y caeau chwarae ar ganolfan, creu pentref iechyd a llesiant trwy ddatblygiadau megis yr ardd dementia, creu cyfleoedd i fusnesau lleol o fewn adeilad yr Antur a pharhau i edrych am gyfleon i gymeryd rhan yn y chwyldro ynni adnewyddol. Os am gysylltu a chael sgwrs am yr unedau a gwaith ehangach yr Antur mae’r manylion cyswllt isod.

 

LLyr ap Rhisiart (cadeirydd) moelfrefawr@gmail.com 01758 750 596

 

Lynda Cox (ysgrifennydd) Lynda.cox@llanaelhaearn.com 01759 750 474

 

Delwedd o’r datblygiadau posib i’r capel a’r cae chwarae:

Antur Aelhaearn cae chwarae

Argfraffwyr 3D brynwyd gan yr Antur i gynhyrchu tarianau yn ystod pandemic 2020

Antur Aelhaearn argraffwyr 3D

Noson cwis a cyri yn ystod gwyl Aelhaearn 1af o Dachwedd:

Antur Aelhaearn noson cwis a cyri

Yr Ardd dementia yn dod at ei gilydd ddechrau 2020:

Antur Aelhaearn gardd dementia

Rhwydwaith partneriaethol newydd ydi Dolan sydd yn cynnwys cynrychiolaeth o gymuned Ffestiniog, Ogwen a Nantlle ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa Her yr Economi Sylfaenol. Yn arwain y prosiect mae Partneriaeth Ogwen, Cwmni Bro Ffestiniog ac Yr Orsaf, Penygroes. Ein bwriad yw arallgyfeirio buddiannau’r economi sylfaenol i wasanaethu ein cymunedau.

Cymdeithas Budd Cymunedol yw Ynni Ogwen a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Bartneriaeth Ogwen. Cynllun cyntaf Ynni Ogwen oedd cynllun hydro cymunedol 100KW ar yr afon Ogwen. Llwyddodd y fenter i godi bron i hanner miliwn mewn cyfranddaliadau cymunedol mewn dau fis sy’n golygu fod y cynllun wedi ei berchnogi gan y gymuned leol. Mae’r cynllun yn allforio 500MWh o drydan adnewyddadwy i’r grid bob blwyddyn a mae’r holl elw yn cael ei ailfuddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol a chymunedol yn y dyffryn. Mae hyn yn cynnwys datblygu cynllun Heuldro Ogwen, sef cynllun solar 21KW ar doeau adeiladau cymunedol.

Mae hen bentref chwarelyddol Nant Gwrtheyrn yn leoliad hollol unigryw. Mae’r cwm hudolus yn byrlymu hanes a diwylliant, lle mae dros 30,000 o ddysgwyr wedi mynychu cyrsiau iaith Gymraeg. Mae’r Nant yn cynnig golygfeydd godidog, llwybrau cerdded arfordirol a choedwig lle gallwch weld byd natur ar ei orau. Yn y dyffryn arbennig hwn, cewch brofi naws a diwylliant cwbl Gymreig.

Mae’r Iorwerth Arms yn dafarn dan berchnogaeth cymunedol  arbedwyd rhag cau a cael ei dymchwel trwy weithredu cymunedol yn 2015. Bellach mae’n dafarn yn cael ei rhedeg ar sail dim am elw lwyddiannus gan Gyfarwyddwyr di-dâl lleol fel canolbwynt cymunedol ar gyfer ardal Bryngwran. Ers dod yn dafarn dan berchnogaeth gymunedol – y busnes manwerthu olaf a’r unig fusnes yn y pentref – mae’r Iorwerth Arms wedi ennill nifer o wobrau o fri (Rownd Derfynol Gwobr Cychwyn Cymru 2016 ac enillydd Tafarn Wledig Gorau Cymru a Phrydain, Gwobrau Cynghrair Cefn Gwlad 2019). Mae’r fenter bellach yn codi arian grant i drosi adeiladau allanol y dafarn yn Unedau Busnes a thrwy hynny ddarparu swyddi a gwasanaethau i’r pentref a’r cyffiniau.