DATBLYGIAD CYMUNEDOL GWYNEDD A MÔN

Mae’r Gymuned Sylfaenol yn rhoi sail amgen i lwyddiant.

Be a phwy ydi SAIL?

Pobl sy efo ffydd mai ein cymunedau yw sail gobaith yng Ngwynedd a Môn.

Pobl wirfoddol o sawl ardal sy’n cefnogi datblygiad cymunedau fel sail i ddyfodol ffyniannus,  hyderus, iach, gwyrdd, Cymreig, cyfartal.

Pobl sy’n credu fod y ddibyniaeth ar gyfalafiaeth gyfoes yn andwyol i’n cymunedau, i’n hamgylchedd, i’n hiaith, i’n diwylliant ac i’n dyfodol.

Mae pob un ohonom yn weithgar mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yn ein cymunedau.

 

Cymunedau iach yw sail ein bywydau

Sail yr amgylchedd

Sail yr economi

Sail diwylliant

Sail iaith

Sail  gwytnwch

Sail cyfartaledd

Sail plethu’r cenedlaethau

Sail celfyddyd

Sail y dyfodol

Sail Cymru

Pam ydan ni’n gweithredu?

Mi ydan ni’n credu bod cymuned yn bwysig i bobol.

Mi ydan ni’n gwybod bod mentrau cymunedol yn llwyddo.

Mi ydan ni’n credu mewn lluosogi mentrau cymunedol er mwyn creu cymunedau iach a gwydn.

Mi ydan ni’n credu fbd modd cadw arian o fewn ein cymunedau.

Mi ydan ni’n gresynu at effeithiau’r toriadau enbyd o du Llywodraethau a Chynghorau.

Mi ydan ni’n chwilio am atebion i’r problemau sy’n goresgyn y Stryd Fawr.

Mi ydan ni am i’n hieuenctid fedru gweithio yn eu hardaloedd mewn tai y gallan nhw ei fforddio.

Mi ydan ni am weld blaenoriaeth i ymladd newid hinsawdd.

Dydan ni ddim yn credu yn yr hen batrwm o ddisgwyl achubiaeth gan gwmnïau mawrion.

Dydan ni ddim am weld adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwastraffu ar yr un hen strategaeth.

Be ydan ni’n geisio ei wneud?

Dangos i bobol fod gwerth i’w cymunedau fel sail ar gyfer y dyfodol.

Dangos sut y medrai Gwynedd a Môn fanteisio ar syniadau blaengar o leoedd eraill ledled y byd.

Dangos sut mae’r gyfalafiaeth a gynigir i’n hachub mewn gwirionedd wedi methu’n drychinebus ar sawl lefel.

Dangos bod modd i gymunedau feddwl yn greadigol a gwahanol er mwyn adfer rheolaeth leol.

Dangos nad ydi cynlluniau swyddogol ddim yn cynnig atebion digonol.

Dangos i wleidyddion sut y medran nhw gefnogi ein cymunedau yn llawer gwell.

Dechrau sgwrs adeiladol efo pawb sy efo diddordeb yn ffyniant ein cymunedau, a chynnig ffyrdd o ddysgu y naill oddi wrth y llall.

 

CYNNWYS

CRYNODEB

CYFLWYNIAD

CEFNDIR HANESYDDOL

DIFFYGION Y  STRATEGAETH SWYDDOGOL BRESENNOL

STRATEGAETH GYMUNEDOL AR GYFER GWYNEDD A MÔN

MEYSYDD a CHYNLLUNIAU DATBLYGIAD AMGEN

ENGHRAIFFT O WEITHREDU MEWN ARDAL – CWMNI BRO FFESTINIOG

MODEL, MANIFFESTO A MUDIAD CYMUNEDOL

FFYNONELLAU SYNIADAU BLAENGAR

GOFYNION

ATODIAD A

 

CRYNODEB

  • AMGYLCHEDD O FLAEN LLYGREDD

Erbyn hyn mae gweithredu i amddiffyn ein hamgylchedd yn bwysig i nifer cynyddol o bobl.  Cyflymodd y broses o ddihysbyddu a llygru adnoddau’r ddaear ers y Chwyldro Diwydiannol – y bu Cymru â rhan flaenllaw yn ei arwain.  Bellach, mae’n amlwg na ellir dal ati fel o’r blaen neu wynebwn drychineb o ran hinsawdd, bioamrywiaeth, bwyd ac yn y pendraw gallu dynoliaeth i oroesi.  Yn ein hardaloedd ni, dylem ystyried pob datblygiad yng ngoleuni hyn.  Fedrwn ni ddim aberthu a rheibio tiroedd, mwynau, llynnoedd a moroedd fel y gwnaed yn y gorffennol.  Byddai hyn yn digwydd os gwireddir rhai o’r cynlluniau cyfredol.  Yn ogystal, rhaid i  ni ystyried effeithiau diwydiannau yma ar ardaloedd eraill yn y byd – er enghraifft os yw diwydiant sy’n ymddangos yn garedig i’r amgylchedd yma yn dibynnu am ei ddeunydd crai ar lygredd a manteisio ar weithwyr wrth fwyngloddio mewn gwlad dramor.

  • POBL O FLAEN ELW

Hen stori cyfalafiaeth yw rhoi elw masnachol o flaen buddiannau a gwerthoedd pobloedd, cymunedau a’r amgylchedd. Dwyshau mae’r bygythiadau sy’n codi o hyn wrth i broblemau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y drefn gynyddu. Yn nannedd argyfwng cyfalafiaeth trawswladol mae cymunedau ar hyd a lled y byd yn ymrymuso ac yn datblygu atebion amgen ar gyfer trawsnewid y drefn, o’r gwaelod i fyny. Dyna mae SAIL yn ei wneud ac rydym yn rhannu gweledigaeth gyda chymunedau o Califfornia i Cwrdistan.

  • CYMUNEDAU O FLAEN CORFFORAETHAU

Rydym yn dadlau y dylid trawsnewid polisïau datblygiad economaidd llywodraethau canol a lleol i gyfeiriad cefnogi’r hyn a elwir yr ‘economi sylfaenol’. Yn hyn o beth rydym yn adleisio gweledigaeth nifer cynyddol o economegwyr a lluniwyr polisïau (gweler www.foundationaleconomy.com). Mae lladmeryddion yr economi sylfaenol yn dadlau na ddylai cefnogi ychydig o gwmnïau technoleg uwch trawswladol fod yn brif amcan polisi datblygiad economaidd llywodraethau canol a lleol fel ag y mae ar hyn o bryd. Yn hytrach,  dylai llywodraethau flaenoriaethu cefnogi cymunedau a’r economi sylfaenol.

  • Y FFORDD YMLAEN

Mae traddodiad o fenter cymunedol yn rhedeg trwy hanes Cymru ac mae cyfle i adeiladu ar yr etifeddiaeth hon. Y sialens yw addasu’r traddodiad cyfoethog hwn o fenter cymdeithasol ar gyfer creu ein dyfodol.

Credwn bod y model integredig a chyfannol o ddatblygu cymunedol y mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ei arloesi yn cynnig patrwm y gellir ei efelychu a’i addasu gan gymunedau eraill. Ymhellach, drwy asio’r model gydag egwyddorion ac ymarfer yr economi sylfaenol, ar sail ymchwil i natur y gymuned, cynigir ffordd ymlaen ar gyfer datblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cymunedau ar draws Cymru a thu hwnt.

Ar sail ein profiad gyda BROcast Ffestiniog gwelir bod potensial a chyfle i ddatblygu darlledu cymunedol digidol ar hyd a lled Cymru gan rwydweithio ar draws Cymru ac yn rhyngwladol. Mae cyfuno darlledu cymunedol, y gorau yn ein traddodiad o fenter cymunedol, model integredig o ddatblygu cymunedol cyfoes, ymchwil cymunedol ac egwyddorion ac ymarfer yr economi sylfaenol yn cynnig ffordd newydd ymlaen i Gymru.

  • MODEL, MANIFFESTO A MUDIAD CYMUNEDOL

Trwy fabwysiadu’r model o ddatblygu cymunedol ac asio’r model gydag egwyddorion ac ymarfer yr economi sylfaenol credir bod potensial i drawsnewid economi a chymunedau Cymru. Mae’r ddogfen SAIL hon yn cynnig strategaeth a maniffesto economaidd a chymunedol ar gyfer dyfodol amgen i Wynedd a Môn. Y bwriad yw cydweithio gyda chymunedau eraill i ehangu ar y maniffesto ar gyfer Cymru gyfan. Bydd y maniffesto yn cynnwys gwahanol adrannau ar y camau y gallesid eu cymryd gan unigolion, cymunedau, cynghorau cymuned a sirol, asiantaethau datblygu a Llywodraethau Cymru, y Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’n traddodiad a’n hanes o fentergarwch cymunedol yn cynnig gwersi sylfaenol ar gyfer ein gwleidyddiaeth heddiw. Er enghraifft, roedd gweledigaeth ‘The Miners Next Step’, a gyhoeddwyd ym 1912, yn un o berchnogaeth a rheolaeth ddemocrataidd gweithwyr a chymuned ar y diwydiant glo. Math o gymunedoli oedd hyn yn hytrach na’r gwladoli biwrocrataidd a gafwyd o du’r wladwriaeth. Mae’r cwestiynau ynglŷn â natur democratiaeth a’r balans rhwng rôl y wladwriaeth a rôl y gymuned i’r dyfodol yn allweddol heddiw.

Eisoes mae sawl cymuned ar draws Cymru wedi dechrau rhwydweithio a chydweithio ac y mae Mudiad Cymunedol ar gyfer Cymru yn dechrau egino. Mae profiad cymunedau yn Sweden yn cynnig patrwm y gellir ei efelychu a’i addasu ar gyfer Cymru. Yn Sweden mae cymunedau ar hyd a lled y wlad wedi cydweithio i greu mudiad cymunedol gyda’i Senedd Cenedlaethol y Cymunedau sy’n sicrhau llais a phwerdy cymunedol grymus.

Law yn llaw ag hyrwyddo model, maniffesto a mudiad cymunedol mae angen ystyried nid yn unig yr amcan ond hefyd y modd i drawsnewid y drefn. Ar draws y byd mae mudiadau blaengar wedi mabwysiadu egwyddor a dull di-drais o weithredu ac mae hyn, fel yn achos ymgyrchu dros y Gymraeg, wedi profi’n dra effeithiol.

 

CYFLWYNIAD

Mae angen mawr am weledigaeth newydd ar gyfer ein cymunedau yng Ngwynedd a Môn.  Bwriad cyflwyno’r strategaeth gymunedol hon yw cynnig ffordd arall o edrych ar beth sy’n bwysig i bobl o’u safbwynt nhw. Mae hyn yn golygu rhoi blaenoriaeth i’n cymunedau ni.

Mae’r flaenoriaeth a roddwyd, ac a roddir, i gyfalafiaeth, twf economaidd ac elw o flaen popeth arall, gan obeithio y bydd cyfoeth yn llifo o’r brig i lawr, wedi methu.  Yn ogystal, mae polisi llymder Llywodraeth San Steffan wedi gwasgu ein Cynghorau Sir i’r fath raddau fel y gwelwn eu bod yn gorfod cyfiawnhau polisïau amhoblogaidd – ac yn gwrthdaro efo’r bobl leol o ganlyniad.  Nid fel hyn mae pethau i fod.

Mewn ardal gymharol dlawd, hawdd deall pam fod croeso gan gynghorau i gynlluniau rhwysgfawr.  Ni ddylai’r gair “Swyddi” ein dallu i’r angen i ofyn cwestiynau sylfaenol am natur y diwydiannau, pwy gaiff y swyddi, a phwy sy’n elwa, a sut broblemau ddaw i’w canlyn – i bobl a’r amgylchedd.

Yn amlwg, nid yw goresgyn problemau’r degawdau olaf yn mynd i fod yn hawdd.  Er hynny, hoffem feddwl y gallwn gyfrannu at y drafodaeth ar sut i ddelio efo rhai o broblemau dyrys ein hardaloedd yn y cyfnod hwn.  A sut i wrthweithio’r ymdeimlad o anobaith sy’n amlwg mewn ardaloedd, pentrefi a threfi sy wedi colli llawer iawn o’r sefydliadau a ystyrid yn gonglfeini – ysgol, banc, stryd fawr brysur, meddygfa ayyb.

Yr anobaith a’r diffyg cyfleoedd sy wedi creu allfudo o’n hieuenctid, ac i raddau y teidiau a’r neiniau, i “borfeydd gwelltog”.  Llenwir y gofod yn ein hardaloedd gan rai sydd ganddyn nhw ddigon o adnoddau i brynu tai a felly ei gwneud yn anos i’n hieuenctid gael eu cartrefi eu hunain, p’run ai drwy berchnogaeth neu drwy rentu.

Rhestrir isod rai pethau y gellir eu hystyried er mwyn mesur llwyddiant.  Wrth gwrs, mae nifer o rhain yn bodoli fel deilliannau dymunol y strategaethau presennol.  Byddwn yn dadlau y dylid edrych o’r newydd ar sut y gellir gwireddu’r deilliannau hyn yn wyneb yr aflwyddiant cyfredol.

  • Sefydlogi poblogaeth ifanc
  • Amrywiaeth o swyddi
  • Diwydiannau sy’n gydnaws a chymesur
  • Tai
  • Ail ddylunio pwrpas ein strydoedd
  • Codi hyder
  • O ganlyniad gwell iechyd meddyliol a chorfforol

Yn gefnlen i hyn oll, fedrwn ni ddim diystyru beth sy’n digwydd yn y byd mawr.  Yn benodol, yr argyfwng hinsawdd, colli bioamrywiaeth a chynefinoedd, llygredd, pendraw twf economaidd, newid yn y syniadaeth o “waith”, datblygiadau technolegol ym maes ynni a sawl maes arall, crynhoi cyfoeth mewn llai a llai o ddwylo.  Gallwn ychwanegu ansicrwydd gwleidyddol, masnachol a chymdeithasol oherwydd Brecsit a rhyfeloedd, a’n dibyniaeth ar Lywodraeth Llundain (yn uniongyrchol ac anuniongyrchol).  Mae rhain i gyd yn effeithio arnom ni.  Dylai ein strategaethau ystyried sut i’w gwrthweithio neu sut i’w harneisio.  Tra’n cydnabod fod ein gallu i weithredu ar lefel leol yn gyfyngedig, eto i gyd gallwn wneud llawer drosom ni ein hunain ar waetha’r gefynnau sydd arnom.

Felly yn y pendraw mae angen gweledigaeth sy’n cynnwys mwy nag economi, er mor bwysig ydyw.  Craidd ein gweledigaeth yw mai cymuned yw sail nid yn unig economi – ond llawer o’r pethau sy’n cyfoethogi bywyd hefyd.  Dyna pam mae isadeiledd cymdeithasol gyda cyfleusterau hwylus i bobl mor bwysig.  Mae angen gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer bywyd i’r anialwch sydd yn amlwg yng nghymaint o’n trefi a’n pentrefi.  Bydd bywydau’r trigolion yn gwella o ganlyniad.

Gan fod y pwyslais ar gymunedau, gobeithiwn y bydd y ddogfen hon yn sail trafodaeth yn y cymunedau hynny.  Nid cynllun gorffenedig yw’r ddogfen, ond sail ar gyfer datblygiad.  Hoffem weld cyfarfodydd efo pobl lle cawn nhw’r cyfle i awgrymu pethau fydd yn gwella eu cymunedau yn yr ystyr lawnaf.

Cafodd y rhan fwyaf o’r ddogfen hon ei sgwennu cyn i Covid-19 ddod ar ein gwarthaf a chreu y fath lanast.  Gwelsom sut y bu cymunedau yn cefnogi eu trigolion yn ystod yr haint, ac am y tro cyntaf ers oesoedd gwelwyd pa mor bwysig yw gwytnwch a chymdogaeth dda i ni.  Clywir llawer o ddarogan y bydd hi’n fyd gwahanol ar ôl i’r argyfwng fynd heibio.  Anodd dweud pa newidiadau yn union a welwn, ond mae un peth yn sicr – bydd ein cymunedau yn hollol greiddiol wrth i ni wynebu heriau’r dyfodol.  Mae’n hanfodol, felly, fod y cymunedau hynny yn cael eu hatgyfnerthu a’u gwerthfawrogi am eu cyfraniad i bob agwedd o fywyd – nid y materol yn unig.  Credwn fod effeithiau Covid-19 yn cadarnhau y neges ganolog yn y ddogfen hon – sef mai cymunedau yw ein cyfoeth, a sail ein bywydau.

CEFNDIR HANESYDDOL

  1. Gwynedd a Môn yn ganolog i’r cyfnod cyn y chwyldro diwydiannol ac i gyfalafiaeth ddiwydiannol cynnar–amaeth, copr, llechi yn allweddol.
  2. Crëodd cyfalafiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg Wynedd a Môn modern gyda dosbarthiadau cymdeithasol newydd. O’u cymharu â rhannau eraill o Brydain, bach o ran nifer oedd aelodau’r dosbarth cyfalafol a’r dosbarth canol gyda dosbarth gweithiol niferus.
  3. Cafwyd gwrthdaro rhwng tenantiaid ffermydd a landlordiaid tir a gwrthdaro dosbarth ffyrnig mynych yn y diwydiant llechi. Roedd y gwahaniaethau hunaniaeth, diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol rhwng y cyfalafwyr a’r gweithwyr yn dwysau’r gwrthdaro rhwng buddiannau cyfalaf a llafur. Fe’i disgrifiwyd fel brwydr gymunedol yn erbyn perchnogion y chwareli llechi. Cafodd chwarelwyr y Penrhyn eu cloi allan am dair mlynedd mewn brwydr dros yr hawl i undeb annibynnol ac mae’r hanes hwn yn ddwfn yng nghof cymunedol Gwynedd.
  4. Drwy gydol yr ugeinfed ganrif tanseiliwyd y sylfeini economaidd a grëwyd yn y ganrif flaenorol ac ail strwythurwyd yr economi, yn enwedig ar ôl 1939. Crebachodd diwydiannau’r sector cynradd, sef amaeth a llechi yn bennaf. Bu cynnydd yn y sector gweithgynhyrchu yn y cyfnod o’r Ail Ryfel Byd hyd at y naw saithdegau. O’r Ail Ryfel Byd ymlaen cynyddodd cyfran y swyddi yn y sector gwasanaethau cyhoeddus. Hefyd cynyddodd y swyddi gwasanaethau preifat; yn enwedig ym maes twristiaeth.
  5. Nid oedd nemor ddim merched yn gyflogedig yn y diwydiant llechi. Er yn weithgar, ychydig o ferched oedd yn berchnogion, tenantiaid neu’n gyflogedig yn y byd amaeth. Yn dilyn y newid o’r sector cynradd i’r eilradd ac i’r trydyddol cynyddodd gwaith cyflogedig merched fel eu bod bellach tua hanner y gweithlu, er bod eu horiau o waith cyflogedig a’u tâl yr awr, ar gyfartaledd, yn parhau’n sylweddol llai na dynion.
  6. Yn cydredeg â’r newid o’r sector cynradd i’r eilradd ac i’r trydyddol newidiodd lleoliadau yn ogystal â natur gwaith. Symudodd swyddi fwyfwy o’r mewndir i’r ardaloedd arfordirol. Er enghraifft, newidiodd y berthynas rhwng Bethesda a Bangor, rhwng Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog.
  7. Wrth edrych ar agweddau o hanes diwylliannol yr ardaloedd chwarelyddol mae’n debyg y bu tuedd i orbwysleisio gweithgaredd ac ymrwymiad i grefydd anghydffurfiol. Er mor bwysig fu dylanwad y capeli roedd bri hefyd ar ddiddanwch y dafarn, y ddawns, y cae pêl droed ac ati ond bod y rhain wedi cael llai o sylw gan haneswyr.
  8. O’i gymharu â’r cyfartaledd yng Nghymru mae Gwynedd a Môn yn fwy dibynnol ar y sector cyhoeddus. Mae’n amlwg bod cwtogi ar y sector yn effeithio’r ardal yn waeth na llefydd eraill.
  9. Gydol yr ugeinfed ganrif tyfodd diwydiant twristiaeth yr ardal ond yn gynyddol cwmnïau trawswladol mawr ddaeth i berchenogi ac elwa fwyaf o’r diwydiant gan adael y briwsion i’r bobl leol. Sefydlwyd cyrff fel Parc Cenedlaethol Eryri yn bennaf er mwyn gwarchod a darparu adnoddau ar gyfer preswylwyr dinasoedd a threfi mawr o’r tu allan. Ystyriaeth eilradd fu anghenion y cymunedau lleol.
  10. Roedd elfen ryngwadol gref i’r diwydiant llechi gyda’i allforio i bedwar ban byd. Yn gynyddol dros yr ugeinfed ganrif globaleiddiwyd elfennau o’r economi yng Nghwynedd gyda newidiadau i batrwm perchnogaeth a rheolaeth cyfalaf. Felly, ceir canghennau cwmniau Prydeinig a thrawswladol yng Ngwynedd ond mae’r pencadlysoedd oddi allan. Oherwydd effeithiau globaleiddio ynghyd â natur llawer o bolisïau datblygiad rhanbarthol llywodraethau’r Deyrnas Gyfunol a Chymru mae economi Gwynedd yn llai integredig a llai unigryw erbyn heddiw.
  11. Bu peth o bwyslais polisïau rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd, yn wahanol i bolisïau rhanbarthol y Deyrnas Gyfunol, ar ddatblygu asedau a chyfleon o fewn Gwynedd a’r rhanbarth gyda’r amcan o integreiddio mwy ar economi’r rhanbarth.
  12. Cafodd y newidiadau economaidd gryn effaith ar gymunedau Gwynedd ond amrywiodd yr effaith yn ddirfawr rhwng un gymuned a’r llall. Wrth i’r sylfaen economaidd newid newidiodd patrymau allfudo a mewnfudo ac ail strwythurwyd y dosbarthiadau cymdeithasol. Arweiniodd hyn at newidiadau ac amrywiaeth ym mhatrymau ieithyddol yn ogystal ag economaidd a chymdeithasol y cymunedau.
  13. Gwelwyd newid gwleidyddol yng Ngwynedd a Môn dros yr ugeinfed ganrif. O ran patrwm pleidleisio roedd y Rhyddfrydwyr yn teyrnasu tan y Rhyfel Byd Cyntaf ond tyfodd cefnogaeth i’r Blaid Lafur yn gyson wedyn, gan gyrraedd ei hanterth ganol yr un naw chwedegau. Ers hynny, cynyddodd pleidlais etholiadol Plaid Cymru yn gyson fel ei bod bellach y blaid fwyaf poblogaidd yng Ngwynedd. Ond gellir dadlau nad yw safbwyntiau gwleidyddol y boblogaeth wedi newid cymaint ag a awgrymir gan y newid yn y patrwm pleidleisio. Yn hytrach, i raddau helaeth, newid sydd wedi digwydd o ran pa blaid sy’n cynrychioli safbwyntiau gwleidyddol cymharol gyson llawer o’r boblogaeth.
  14. Yn achos yr ardaloedd cyn-chwarelyddol cwympodd y boblogaeth yn gyson am ganrif a mwy gan golli llawer o’u hieuenctid. Ar y llaw arall, tyfodd poblogaeth rhai o’r cymunedau arfordirol gyda phatrwm mudo tra gwahanol.
  15. Mae gan Wynedd y stoc tai hynaf yng Nghymru, ac mae Cymru gyda’r stoc hynaf yn Ewrop. Y canlyniad yw tai gwael gyda biliau gwresogi a chynnal uchel.
  16. O ganlyniad i’r newidiadau economaidd mae incwm y pen yn is o’i gymharu â chyfartaledd Cymru, sydd yn ei dro, yn is na chyfartaledd Prydain a Gorllewin Ewrop.

Prif wersi’r hanes

Cynhyrchodd gweithwyr Gwynedd a Môn gynnyrch a gwasanaethau aruthrol ond eraill fanteisiodd fwyaf ar lafur ac adnoddau naturiol y rhanbarth. Er cynhyrchu’r fath gyfoeth ac er y dylem fod yn gymunedau economaidd ffyniannus rydym, mewn gwirionedd, bellach ymysg tlodion Ewrop.  Heb berchenogaeth a rheolaeth dros ein hadnoddau parhad o hyn fydd ein hanes.

Mae’n rhaid cael ffordd wahanol ymlaen i’r gorffennol. Dyna pam y cynigir  strategaeth economaidd a chymunedol amgen ar gyfer dyfodol llewyrchus. Mae’r fath strategaeth yn dibynnu ar ddeall natur ein cymunedau heddiw. Un o’r gwersi amlwg sy’n codi o edrych ar hanes Gwynedd a Môn yw cymaint yw’r amrywiaeth economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ymysg cymunedau’r ardal. Felly, mae’n rhaid saernio ymchwil a gwaith datblygu cymunedol yn unol â natur unigryw unrhyw gymuned benodol. Mae angen gwaith ymchwil a chynlluniau datblygu cymunedol yn seiliedig ar wir ddealltwriaeth o sut mae nodweddion hanesyddol, ieithyddol, gwleidyddol ac economaidd cymunedau penodol wedi’u cydblethu. I ddeall, dehongli a datblygu  cymuned heddiw mae angen data a gwybodaeth ar y nodweddion a’r cyrff a restrir isod.

Demograffi, cwmniau trawswladol, mentrau bach a chanolig (SMEs), micro-fusnesau, hunan-gyflogaeth, cyflogaeth, diweithdra, teithio i waith, dosbarthiad incwm, budd daliadau, stoc tai, prisiau tai, rhenti anheddau, tai gwyliau, tai gwyliau ar rhent, amgylchedd, costau byw, costau a thlodi tanwydd, prisiau nwyddau a gwasanaethau, addysg, iechyd, diwylliant, iaith, adloniant, chwaraeon, hamdden, gwasanaethau ieuenctid, ffactorau mwy annelwig megis gwreiddiau, teimlad o gymuned, Cymreigrwydd, golygfeydd, byd natur, diogelwch, awyr iach ac yn y blaen.

Yn syml, prif wers ein hanes ydi bod rhaid i ni yn ein cymunedau ddeall ein sefyllfa heddiw a meddiannu’r dyfodol.

Cyfeiriadaeth

Lovering, J. (1976) Gwynedd –Sir Mewn Argyfwng. Coleg Harlech.

 

DIFFYGION Y  STRATEGAETH SWYDDOGOL PRESENNOL

Gwyddom fod Gwynedd a Môn ymhlith yr ardaloedd tlotaf o fewn y Deyrnas Unedig.  Er enghraifft, yn 2017, Gwerth Ychwanegol Crynswth y Pen ym Môn oedd £14,314 ac yng Ngwynedd £19,969 (Cymru £19,899, y DU £27,298). [1]  Cymru yw’r unig wlad o fewn y Deyrnas Gyfunol a welodd gynnydd yn nhlodi plant yn 2017 – 2018 medd adroddiad diweddar a gomisynwyd gan Plant yng Nghymru ac eraill, gyda bron i dri plentyn o bob deg yn byw mewn tlodi.[2]

Dydi cynlluniau mawr y gorffennol, megis Trawsfynydd,  Wylfa A ac Aliwminiwm Môn,  ddim wedi datrys y broblem – byddai rhai yn dadlau eu bod wedi gwaethygu pethau.  Y wers ydi fod cwmnïau cyfalafol yn eu hanfod yn gwneud cymaint o elw ag y gallant drwy fanteisio ar adnoddau naturiol a dynol lleol, ac ar arian o’r pwrs cyhoeddus,  cyn diflannu a gadael problemau ar eu holau.

Mae Dr Dan Evans yn egluro fod cyfalafiaeth angen ardaloedd tlawd yn ei erthygl i’r Sefydliad Materion Cymreig o 2015, felly nid damwain ydi tlodi ein hardaloedd.[3]  “…capitalism in fact needs these depressed, undeveloped regions- they are not an accident, just like unemployment is not an accident….FDI (Foreign Direct Investment) is a false idol. The decision to invest in Wales is not benevolent, as portrayed in the press, but driven solely by profit. It is parasitic: firms come in, make a profit, then leave.”  Un o ganlyniadau anffodus hyn yw fod gwleidyddion yn dueddol o lyncu addewidion am rhyw Eldorado rhithiol fel ffordd o ddatrys problemau hirdymor.

Gwelwyd enghraifft ym Mhenybont yn Ne Cymru gyda cyhoeddiad cwmni Ford eu bod am gau eu ffatri yno gyda 1,700 o swyddi yn mynd.[4]  Ac eto, cynigir yr un mathau o atebion i ni ar hyn o bryd.  Cyhoeddwyd fod cwmni Ineos, sy wedi codi gwrychyn llawer oherwydd ei gefnogaeth i ffracio a’r diwydiant olew, am sefydlu ffatri yn agos i ffatri Ford, gyda 200 o swyddi i gychwyn ac addewid am 500 yn y pendraw.  ‘Does dim syndod yn y  byd fod arian Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn cefnogi Ineos – er fod ei berchennog, Sir Jim Ratcliffe, yn cael ei gydnabod fel y dyn cyfoethocaf yn y DU gyda £21biliwn i’w enw.[5]  Ar ben hynny, mae’n byw ym Monaco er mwyn osgoi talu treth.[6]  Mae hyn yn berthnasol i Wynedd a Môn am fod yr union feddylfryd gwleidyddol hwn yn bodoli yma hefyd.

Nodwn fod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn dweud: “Gallai dros 5,000 o swyddi gael eu creu, yn ogystal â busnesau a thai newydd (gan gynnwys tai fforddiadwy).” [7]

Mae’r math yma o osodiad yn ein hatgoffa o’r ieithwedd a ddefnyddid pan gafwyd cyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” pan gafodd yr ardaloedd hyn chwistrelliad anferth o arian o Ewrop o dan raglen Amcan Un – ac eto chafodd yr economi ddim ei thrawsnewid, a mae tlodi yr ardal yn dal i olygu ein bod yn gymwys i dderbyn arian o Ewrop.[8]  Mae erthygl [9] yr Athro Calvin Jones, Prifysgol Caerdydd, yn “The Conversation” yn trafod mewn manylder agweddau o’r dull yma o ariannu, a sut y mae angen edrych o’r newydd ar broblemau ein hardaloedd tlotaf.

Ofnwn hefyd fod yr awydd i fod yn rhan o’r Northern Powerhouse[10] yn Lloegr yn debygol o arwain at wneud ein hardaloedd ni yn hyd yn oed fwy ymylol gan mai bychan fydd ein dylanwad ar strategaeth y corff hwnnw, ac yn debygol o wanhau ein cysylltiad economaidd efo rhannau eraill o Gymru.  Ychwanegwyd at y canfyddiad fod Gwynedd a Môn yn ymylol i gynlluniau gan Lywodraeth Cymru gan y ddogfen “Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020 – 2040 (drafft)”.[11]  Yma mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethau ardaloedd dinesig a threfol ar gyfer buddsoddiadau – yn y Gogledd, Wrecsam – a phwysleisir dro ar ôl tro y pwysigrwydd o ddatblygu cysylltiadau rhwng Wrecsam a Gogledd Lloegr.  Deallwn fod Cynghorau Sir Gwynedd ac Ynys Môn yn anfodlon efo’r weledigaeth hon hefyd.

Wrth gwrs, mae rhai datblygiadau y gallwn eu cefnogi, fel cynllun ynni morol Morlais [12] oddi ar arfordir Ynys Môn.  Mae’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy ddefnyddio arian Ewropeaidd i ddatblygu ynni’r llanw’n fasnachol i’w groesawu.[13]  Dylai’r pwyslais fod, fel ymhob cynllun, ar gael y budd mwyaf i’r ardal leol, a da deall mai dyna yw bwriad Menter Môn, sydd y tu ôl i Morlais.  Cwestiwn creiddiol i’w ofyn yw hwn – beth ydyn ni’n ei olygu wrth “fudd lleol”?  Ydi o’n golygu rhoi arian gan y cwmnïau masnachol mewn cronfa debyg i Gymdeithas Elusennol Ynys Môn?[14]  Gwnaeth y gronfa honno, a sefydlwyd yn wreiddiol fel gwaddol gan gwmni olew Shell, waith rhagorol ers 30 mlynedd, a mae bellach yn werth £22 miliwn, i’w ddosbarthu er lles “grwpiau gwirfoddol a chymunedol a phrosiectau adfywio”.  Neu a ddylid bod yn fwy uchelgeisiol?  A oes modd i’r bobl leol gael cyfran o berchnogaeth cwmnïau sy’n manteisio ar ein hadnoddau naturiol a dynol?  Yn y pendraw, byddai’n ddymunol cael perchnogaeth leol lle mae’n bosibl – hynny yw, anelu at fod yn berchen y deisen a nid y briwsion sydd dros ben.

Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dod i’r fei sy’n dangos pa mor hen ffasiwn a sicr o fethu yw’r strategaeth bresennol.  Bellach, nid pobl a mudiadau ymylol sy’n dweud hyn.  Ceir gwaith academaidd parchus o Brifysgolion Stanford a Berkeley yn UDA ac Aalborg yn Nenmarc sy’n modelu 100% o ynni glan, adnewyddol mewn 139 o wledydd. [15]  Dywed adroddiad y sefydliad byd-eang McKinsey “Global Energy Perspective 2019” [16]:

“As the cost of renewables has come down further, many countries will reach a tipping point in the next five yearswhere new-build solar or wind capacity is cost-competitive with the fuel cost of existing conventional plants.  As a result we see a further acceleration of the ramp-up of renewables.”

 

Astudiaeth achos – Wylfa B

Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru[17] yn cefnogi Cais Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru[18] “ble bo ffocws y twf economaidd ar arloesedd mewn sectorau economaidd gwerth uchel”. 

Yr enghraifft amlycaf yw Wylfa B, sydd bellach wedi ei atal.  Cefnogwyd Wylfa gan Lywodraeth Cymru[19] , Llywodraeth y DU[20], a Phrifysgol Bangor.[21] Dyma oedd conglfaen economaidd Ynys Môn ac i raddau helaeth Gwynedd, a dyma gynsail y Cynllun Datblygu Lleol mae’r ddau Gyngor yn ei rannu. [22]  Y gwir plaen yw fod dyfodol economaidd Ynys Môn a Gwynedd wedi cael ei osod yn ddi-gwestiwn yn nwylo ychydig o bobl mewn ystafell yn Tokyo – sef bwrdd Cwmni Hitachi.[23] Treuliwyd dros ddeng mlynedd a gwariwyd arian[24] ac amser swyddogion yn cefnogi’r atomfa ar draul syniadau economaidd eraill.  Oes yna rywrai am gael eu galw i gyfri am hyn?  Oes yna ymddiheuriad am ddadrithiad y bobl ifanc oedd wedi disgwyl cael gwaith yno?  Oes yna unrhyw ystyried o faint o swyddi fyddai wedi cael eu creu erbyn hyn pe buasai’r arian a wariwyd i gefnogi Wylfa wedi ei wario i gefnogi mentrau cymunedol a busnesau lleol?  Oes yna unrhyw ailfeddwl am ffolineb parhau efo’r freuddwyd niwclear am Wylfa a Thrawsfynydd?  Breuddwyd sy’n fyw ac yn iach ym meddyliau gwleidyddion lleol ar Ynys Môn a Gwynedd, a Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Cyfunol.[25] [26]  A breuddwyd sy’n anwybyddu yn llwyr y dystiolaeth gynyddol nad oes angen ynni niwclear i gyflenwi ein anghenion, ac yn ogystal nad oes modd adeiladu atomfeydd mewn pryd i ddadwneud effeithiau newid hinsawdd, fel y dywed y “World Nuclear Industry Status Report 2019”:

 “Stabilizing the climate is urgent, nuclear power is slow. It meets no technical or operational need that these low-carbon competitors cannot meet better, cheaper, and faster.”

Mae’r syniad o drydedd Pont dros y Fenai eto yn un a ddaeth yn dilyn y ragdybiaeth fod Wylfa B yn dod; daeth cyfaddefiad o hyn gan Ken Skates (Aelod Cabiet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth).[27]  Ar waethaf hyn maeLlywodraeth Cymru am wario mwy o arian ar y prosiect.[28]  Y gwir plaen yw nad ydi adeiladu mwy o ffyrdd yn datrys problemau trafnidiaeth, nac allyriadau carbon.  Dylid edrych ar y broblem yn ehangach – sef sut i symud pobl a nwyddau yn y dull mwyaf effeithiol o un lle i’r llall, ac edrych eto ar batrymau teithio i’r gwaith ac ar gyfer hamdden.  Gallwn ddweud fod yr un dadleuon yn berthnasol a’r rhai a roddwyd gan Dr Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, pan ganslwyd y bwriad i ddatblygu yr M4 yng nghyffiniau Casnewydd.[29]

Mae’n werth dyfynnu’n helaeth o adroddiad am gyfarfod (Ionawr 2020) y Royal Institution of International Affairs, Chatham House[30] :

“Far from tackling climate change, nuclear power is an expensive distraction.

Nuclear power is in terminal decline worldwide and will never make a serious contribution to tackling climate change.

“Money used to improve energy efficiency saved four times as much carbon as that spent on nuclear power; wind saved three times as much, and solar double.

The fact is that nuclear power is in slow motion commercial collapse around the world. The idea that a new generation of small modular reactors would be built to replace them is not going to happen; it is just a distraction away from a climate solution

One of the myths peddled was that nuclear was needed for “baseload” power because renewables were available only intermittently.

“Having large inflexible nuclear stations that could not be switched off was a serious handicap in a modern grid system where renewables could at times produce all the energy needed at much lower cost.”

Diddorol hefyd yw sylw Dr Martin Edlund, Prif Weithredwr cwmni Minesto,[31] sy’n treialu dyfais ynni llanw a cherrynt ger Caergybi:[32]

“The potential that we’ve seen so far is more than the whole nuclear capacity on Earth”.

 

Astudiaeth achos – Parth Menter Eryri

Enghraifft o ailgylchu syniadau o’r ganrif o’r blaen yw Ardal Menter Eryri, sef safleoedd Maes Awyr Llanbedr ac atomfa Trawsfynydd.[33]  Ymddengys fod aelodau’r Bwrdd Cynghori efo cysylltiadau efo’r diwydiannau niwclear a / neu hedfan milwrol,[34] a ‘does yna ddim cynrychiolaeth o fudiadau cymunedol.  Credwn fod yna elfen anfoesol yn y datblygiadau a gefnogir. 

Mae’r swigen niwclear yn dal i hybu Adweithyddion Modiwlaidd Bychan (Small Modular Reactors) ar waetha’r hyn a ddywed y “World Nuclear Industry Status Report”,[35] sef:

“United Kingdom. Rolls-Royce is the only company interested in participating in the government’s SMR competition but has requested significant subsidies that he government is apparently resisting. The Rolls-Royce design is at a very early stage but, at 450 MW, it is not really small.”

Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi £500,000 i gefnogi datblygiad Maes Awyr Llanbedr, sy’n gartref i Snowdonia Aerospace Ltd[36] (cwsmeriaid yn cynnwys y cwmnïau arfau Qinetiq, BAE a Thales)a lle y bydd adar angau (“drones”) yn cael eu datblygu.[37]  Yn Nhrawsfynydd cefnogir Adweithyddion Modiwlar Bychan (SMR’s) gan Gyngor Gwynedd,[38] Llywodraeth Cymru,[39] yr Aelod Cynulliad lleol[40] yr Aelod Seneddol lleol[41] a’r Arglwydd Wigley.[42]   Mae cyswllt milwrol rhwng niwclear sifil a niwclear milwrol,[43] [44] felly anodd yw cysoni cefnogi Trawsfynydd tra’n gwrthwynebu Trident.[45]  Anodd hefyd gweld sut y gellir ei gefnogi ar sail yr argyfwng hinsawdd, gan y byddai’n rhy hwyr yn dod i’r adwy,[46] a ‘does yna ddim sicrwydd o gwbl faint o swyddi fyddai i bobl leol.

 

STRATEGAETH GYMUNEDOL AR GYFER GWYNEDD A MÔN

Yn ei hanfod, sail ein strategaeth yw hyn:

Economi i wasanaethu pobl yn eu cymunedau a gwella yr amgylchedd naturiol a diwylliannol.

Nid strategaeth wedi ei pharatoi mewn dull arferol yw hon.  Mae’n ymateb gan bobl yng Ngwynedd a Môn sy’n pryderu am y methiant i ddatblygu cyfleoedd gwaith.  Pryderwn am gynseiliau datblygiad a phwrpas y cynllunio economaidd a gafwyd yma ers dros ddegawd bellach.  Credwn fod angen chwyldroi y ffordd y byddwn yn edrych ar ddatblygiad ein cymunedau yn eu cyfanrwydd.

Cwestiynwn os yw’r syniad o “Dwf Economaidd” yn y dull cyfredol yn gynaliadwy bellach.  Ers y Chwyldro Diwydiannol, mae pobl ac adnoddau naturiol wedi eu defnyddio i wasanaethu’r economi.  Pan na fydd angen pobl, pan fydd yr adnoddau naturiol wedi darfod, neu pan fydd proses newydd yn eu disodli, yna bydd y peiriant cyfalafol yn symud ymlaen heb gymryd cyfrifoldeb am y niwed a wnaed.  O ganlyniad caiff trefi a ddaeth i fodolaeth yn dilyn sefydlu diwydiant penodol eu hesgeuluso, fel yn ardaloedd y chwareli (Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Dyffryn Nantlle) ac ardal y diwydiant copr (Amlwch).  Mewn diwydiannau eraill megis amaeth gwelwn ddiboblogi gan fod angen llai a llai o weithwyr, a ffermio dwys sy’n gallu arwain at broblemau amgylcheddol.[47]

Mae hyd yn oed cyfalafwyr blaenllaw yn cyfaddef erbyn hyn nad ydi cyfalafiaeth yn gweithio i’r rhan fwyaf o bobl.  Er enghraifft Ray Dalio (gwerth $18 biliwn!):“Capitalism basically is not working for the majority of people. That’s just the reality,” .[48]

Gwelwn fwy a mwy o bobl sydd mewn gwaith ac yn gweithio oriau hirion, ond eto yn dal i gael trafferth cadw dau pen llinyn ynghyd.[49]  Eto i gyd, yn y Ffindir mae’r Prif Weinidog 34 oed, Sanna Marin, yn awyddus i gyflwyno wythnos waith o 4 niwrnod, ac oriau gwaith o 6 awr y dydd.[50]  Felly mae rhannu cyfoeth, adnoddau ac amser angen diwygiad llwyr.

Rhaid deffro i fygythiad enfawr newid hinsawdd fel sy’n cael ei egluro yn adroddiad yr IPCC,[51] a phlethu ein cynlluniau economaidd mewn cytgord á’r amgylchedd. Bellach, gwyddom fod rhaid i ni wneud popeth posib i warchod yr amgylchedd wrth gynnal economi.  Er mwyn cyflawni hyn, mae angen chwyldroi y ffordd yr ydym yn meddwl am waith a beth yw ei bwrpas.  A chydnabod na allwn ni drin cyfoeth y ddaear fel pe bai’n ddihysbydd.

Dylem gywilyddio fod ein “gwareiddiad” honedig wedi bod yn rhy ddall ac yn rhy farus i wynebu’r argyfwng amgylcheddol cyn hyn – a chywilyddio mwy fod yn rhaid i’n plant a’n pobl ifanc ymgyrchu mor eofn am nad yw ein harweinwyr gwleidyddol wedi gweithredu’n briodol. 

Mae’r strategaeth yn herio natur nifer o gynlluniau a gefnogir  gan y sefydliad gwleidyddol –  cynlluniau sydd hefyd, i raddau helaeth, yn diystyru newidiadau yn y byd mawr tu allan.

Cynlluniau a fyddai’n niweidiol i’n cymunedau, i’n hiaith a’n diwylliant, ac i’n hamgylchedd. 

Heriwn ein gwleidyddion i wynebu’n onest y ddeuoliaeth sy’n bodoli rhwng ar y naill law ddatganiadau ardderchog am yr amgylchedd, ac ar y llaw arall y parodrwydd i roi lles yr amgylchedd o’r neilltu wrth gefnogi diwydiannau sy’n dinistrio amgylchedd a chreu problemau difrifol i genedlaethau’r dyfodol.  Wrth reswm, rhoddwn groeso brwd i’r gwaith da a wneir mewn meysydd megis ailgylchu, ond credwn y dylai holl bolisïau llywodraethau lleol a chanolog gael eu llunio o safbwynt amgylcheddol.  Mae’r ‘sgrifen ar y mur! 

Strategaeth yw hon sy’n ymateb i’r teimlad o anobaith ymysg ein cymunedau sy’n deillio o genedlaethau o esgeulustod economaidd gan Lywodraethau canolog.  Mae’r agenda llymder yn rhwygo ein hardaloedd.  Gwelwn fwy a mwy o wrthdaro rhwng y cyhoedd a’r cynghorau sir o ganlyniad, lle y dylem fod yn cydweithio, er enghraifft pan fydd clybiau ieuenctid[52] ac ysgolion gwledig yn cael eu cau gan ein cynghorau sir.[53] [54] Gan fod diweithdra a thlodi’n rhemp, mae cynigion allanol gan gwmnïau cyfalafol rhyngwladol a’r diwydiant milwrol yn cael croeso á breichiau agored gan y sefydliad gwleidyddol Cymreig.[55] [56] [57]Mae’r ymateb gwleidyddol yn dilyn methiant cynnig o’r fath yn dangos tlodi dychymyg affwysol.  Enghraifft o hyn yw’r drafodaeth yn y Senedd am Wylfa.[58]

Hoffem gyflwyno syniadau fydd yn adfer hyder ein pobl, a chynnig gobaith – yn enwedig i’n hieuenctid – y gall fod gwell dyfodol yma, a na fydd dim rhaid gadael yr ardal er mwyn ei gael.  Hoffem feddwl y gellid creu hinsawdd lle y bydd rhai o’r bobl ifanc sy wedi gadael yn gweld cyfleoedd i ddod yn ôl i adfywio eu hardaloedd cynhenid.

Ein cred yw fod gwell gobaith i’n heconomi oroesi’n wydn os y bydd yn datblygu o’r gwaelod i fyny.  Mae’r  pwyslais ar ateb gofynion lleol yn hytrach na gofynion cyfalafiaeth.  Credwn mai diben economi lewyrchus a gwaith yw creu amodau byw boddhaol i bawb.  Mae hyn yn golygu tai, gwaith ac iechyd.

Rydym yn dadlau y dylid trawsnewid polisïau datblygiad economaidd llywodraethau canol a lleol i gyfeiriad cefnogi’r hyn a elwir yr ‘economi sylfaenol’. Yn hyn o beth rydym yn adleisio gweledigaeth nifer cynyddol o economegwyr a lluniwyr polisïau (gweler www.foundationaleconomy.com). Mae lladmeryddion yr economi sylfaenol yn dadlau na ddylai cefnogi ychydig o gwmnïau technoleg uwch trawswladol fod yn brif amcan polisi datblygiad economaidd llywodraethau canol a lleol fel ag y mae ar hyn o bryd. Yn hytrach,  dylai llywodraethau flaenoriaethu cefnogi’r economi sylfaenol. Hwn yw’r sector o’r economi sy’n cyflogi 40% o’r gweithlu, sy’n rhannol gyhoeddus ac yn rhannol breifat, sy’n darparu’r nwyddau a gwasanaethau a gymerir yn ganiataol ac sydd eu hangen gan bawb ac sydd felly wedi’u hangori yn ein cymunedau. Mae’r economi sylfaenol, yn ei hanfod, yn gymdeithasol a chymunedol. Yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol fe’i hariennir gan y wladwriaeth neu gan wariant cartrefi sy’n golygu bod gweithgareddau’r economi sylfaenol  wedi’u gwarchod rhag anwadalwch y farchnad. Dylai’r modd hwn o ailedrych ar yr economi yn nhermau’r economi sylfaenol, neu ein cymunedau sylfaenol,  arwain at bolisïau llywodraeth gwahanol. Polisïau newydd sy’n cwestiynu’r modelau busnes, cyhoeddus a phreifat, sy’n gosod cost lleiaf ac elw mwyaf fel y nod ac sy’n anwybyddu’r sail cymunedol ar gyfer cynaliadwyedd amgylchedd, economi a chymdeithas. 

Mae gweledigaeth SAIL yn cwestiynu ffordd y sefydliad o feddwl am amgylchedd, economi, cymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant. Yn unol â syniadaeth yr economi sylfaenol mae dau set o syniadau wrth wraidd gweledigaeth SAIL ac fe’u nodir isod.

  1. Mae lles a ffyniant pobl yn dibynnu llai ar brynu nwyddau a gwasanaethau ar gyfer unigolion a mwy ar y ddarpariaeth o nwyddau a gwasanaethau cymunedol. Pethau fel y cyflenwad dŵr, ysgolion, ysbytai, banciau a chartrefi gofal. Mae gwariant yr unigolyn yn dibynnu ar incwm yr unigolyn ond mae’r defnydd o nwyddau a gwasanaethau cymunedol yn ddibynnol ar y ddarpariaeth gymunedol.
  2. Felly, prif swyddogaeth polisïau cyhoeddus ddylai fod i sicrhau gwasanaethau sylfaenol gwell ar gyfer pawb yn hytrach na’r obsesiwn unllygeidiog gyda thwf economaidd a chynyddu’r nifer o swyddi heb ystyried eu hansawdd na’u gwerth. Pe buasai lles a ffyniant pawb yn brif amcan yna buasai disgwyl i lywodraeth, ar lefel Prydain a Chymru ac yn lleol, i flaenoriaethu’r economi sylfaenol a darpariaeth gymunedol o safon i bawb.  Er bod Llywodraeth Cymru wedi symud ychydig i’r cyfeiriad hwn, cefnogi cwmniau trawswladol mawr sy’n dal yn cael blaenoriaeth ar draul ein cymunedau. Pan fo llywodraethau, ar wahanol lefelau, ddim yn ymateb yna rhaid i ni yn ein cymunedau arwain y ffordd a gweithredu. Mae hyn yn creu gwleidyddiaeth o’r gwaelod i fyny sy’n mynd tu hwnt  i wleidyddiaeth top i lawr gyda’i ffug addewidion o ‘pleidleisiwch i ni a nawn ni hyn i chi’.

Dydyn ni ddim yn honni fod yr atebion i gyd gennym.  Dydyn ni ddim yn ymddiheuro am ladrata syniadau chwaith!  Hynny yw, sut y gellid defnyddio ac addasu syniadau a phrosiectau sy wedi gweithio ac yn cael eu gweithredu mewn lleoedd eraill er lles ein pobl ni yng Ngwynedd a Môn.

Wrth gwrs, mae gan y Cynghorau Sir, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ddylanwad enfawr.  Dydyn ni ddim am fychanu hynny, a byddwn yn croesawu trafodaeth.  Hoffem feddwl y bydd gwleidyddion ac yn wir pobl yn y gymuned yn fodlon ystyried a thrafod ein syniadau fel ymgais ddidwyll ac adeiladol i gael newid er gwell.  Dechrau trafodaeth yw ein bwriad, nid cynnig atebion manwl ar gyfer pob cymuned ac ardal unigol.  Ond y gobaith yw y bydd yr atebion penodol hynny yn cael eu llunio gyda’r egwyddorion a’r meddylfryd a geir yn y ddogfen hon.

Ein gobaith yw ysgogi pobl i feddwl yn greadigol ac o’r newydd.  Meddwl bod yna ffyrdd gwahanol o fesur llwyddiant.  Meddwl bod yna ffyrdd gwahanol o roi to uwch pennau ein pobl.  Meddwl bod yna ffyrdd cynaliadwy o ddefnyddio ein tiroedd a’n moroedd.  Meddwl bod modd creu gwaith er mwyn pobl nid er mwyn cyfalaf estron.  Mae’r bobl fedr wneud hyn gennym yn ein cymunedau – os cawn nhw gelfi addas i’r gwaith.  

Mae geiriau Sel Williams o Gwmni Bro Ffestiniog yn crynhoi’r athroniaeth sy’n llywio ein meddyliau:

“Yn greiddiol i’r materion hyn mae’r cwestiwn o ba fath o Gymru yr ydym am ei chreu.  Cymru fel cymuned o gymunedau neu Gymru gyda gwladwriaeth sy’n blaenoriaethu gwasanaethu cyfalaf  preifat ac yn canoli yn hytrach na datganoli grym, gwladwriaeth Gymreig i’n rheoli neu wladwriaeth sy’n rhyddhau a gwasanaethu ein cymunedau a’n pobl”.

Mae gan Raymond Williams, y meddyliwr praff o Gymro, eiriau doeth i’n cynghori:

“…there is wealth only in people and in their land and seas. Uses of wealth which abandon people are so profoundly contradictory that they become a social disaster, on a par with the physical disasters which follow from reckless exploitation of the land and seas. An economic policy which would begin from real people in real places, and which would be designed to sustain their continuing life, requires a big shift in our thinking…”

 

Blaenoriaethau Strategaeth:

Gwaith cynaliadwy

Y strategaeth yw ystyried sut fath o gyflogaeth sy ddim ar drugaredd penderfyniadau a wneir ymhell o Wynedd a Môn, a sut fath o strwythyr sy’n addas i gynlluniau a datblygiadau ar gyfer sicrhau’r fantais eithaf posib i’n cymunedau.

Yng ngoleuni hyn, beth sy wedi digwydd hyd yma?  Y ffaith amdani yw fod cau un ffatri sy’n cyflogi, dyweder, 100 o bobl yn ergyd fawr.  Ond byddai colli gwaith i 1,000 o bobl yn waeth o lawer.  Felly annoeth yw dibynnu ar un cyflogwr mawr mewn ardal, a mwy annoeth fyth yw cynllunio ar gyfer dyfodiad cyflogwr o’r fath, heb sicrwydd y bydd yn buddsoddi, a heb gynllun credadwy am gyflogaeth wrth gefn.  Dyma wendid sylfaenol y gefnogaeth a gafodd Wylfa B ar draul cynlluniau eraill – a mae hyn yn wirionedd cyffredinol, nid am ynni niwclear yn benodol.

Felly dylai gwaith cynaliadwy ystyried nodweddion yr ardaloedd hyn, a cheisio datblygu gwaith mewn cytgord â’r nodweddion hynny, a defnyddio gweithwyr lleol ar gyfer y gwaith fel man cychwyn.  Gellid cynnig enghreifftiau lu o waith yn cael ei roi i gwmnïau allanol tra bod y sgiliau i wneud y gwaith yn bodoli’n lleol.  Dylai y sector gyhoeddus, sy’n cynnwys cynghorau sir, colegau a llywodraethau sylweddoli bod llawer mwy i’w wneud yn y cyfeiriad hwn, gan lunio cytundebau caffael sy’n rhoi siawns dda i gwmnïau lleol gael y gwaith.

Credwn fod yna le i ddatblygu gwaith sy’n defnyddio deunydd crai y gellir ei dyfu a/neu ei gasglu, fel bod y ffynhonnell wrth law yn hytrach na gorfod cael ei gludo yma o bell.  Enghraifft o beth allai fod yn bosib yw ymestyn y gwaith a wneir gan y Ganolfan BioGyfansoddion[59] ym Mhrifysgol Bangor gyda’r amcan benodol o sefydlu diwydiannau yn lleol.  Byddai hynny’n golygu nid yn unig creu swyddi ond hefyd ychwanegu gwerth at y cynnyrch.

  • Gwarchod amgylchedd

Y strategaeth yw gosod gwarchod yr amgylchedd yn gonglfaen pob polisi a fabwysiedir, pob penderfyniad a wneir, a phob dull o weithredu – fel unigolion, cyrff cyhoeddus a busnesau.

Yr eithafwyr bellach yw’r rhai sy’n credu y gallwn anwybyddu effeithiau gweithredoedd y ddynoliaeth ar yr  amgylchedd.  Os ydyn ni yn y gornel hon o’r ddaear i wneud beth fedrwn ni i warchod yr amgylchedd, yna dylem fabwysiadau y bwriad clodwiw a fynegir mewn datganiadau argyfwng newid hinsawdd ein Cynghorau a’n Llywodraeth, drwy fynd cryn dipyn pellach na sicrhau ailgylchu effeithlon, hybu ceir trydan ac yn y blaen, er mor ardderchog yw’r pethau hynny.

Ein strategaeth yw ystyried effeithiau byr dymor, a hirdymor, unrhyw ddatblygiadau yn ein hardaloedd.  Nid yw’n gyson ar y naill law i gael polisï gwyrdd, tra ar y llaw arall yn anwybyddu goblygiadau polisi o’r fath.  Dyma sy’n digwydd pan geir addewidion am swyddi honedig sy’n golygu adeiladau ar dir glas, dinistrio cannoedd o erwau, aberthu tir a thirlun ar gyfer ffyrdd a phontydd.  Sinigaidd yw’r ymgais i “liniaru” dinistr o’r fath drwy ddynodi gwarchodfeydd a chynefinoedd yn lle y rhai a ddifrodwyd.

Credwn y dylid edrych ar safleoedd sy bellach yn segur am fod eu pwrpas gwreiddiol wedi dod i ben, a’u defnyddio ar gyfer dibenion cyfoes.  Dylai hyn fod y dewis cyntaf cyn rhoi concrid ar dir glas.  ‘Does ond angen edrych o’n cwmpas  a gwelwn enghreifftiau o hen safle yn mynd a’i ben iddo, tra yn ymyl mae safle newydd wedi cael ei ddatblygu ar dir amaethyddol da.  Yn amlwg, bydd yna ystyriaethau o ran perchnogaeth safleoedd i’w datrys, ond bellach rhaid i ni ddelio efo problemau o’r fath.  I ail adrodd un o’n hegwyddorion, dylid gwneud beth sy orau i’r gymuned yn hytrach na beth sy orau i gyfalafwyr.  Fel arfer, bydd yr hyn sy orau i’r gymuned yn gyfystyr a beth sy orau i’r amgylchedd.

Mae angen ystyried effeithiau yr hyn a wnawn ni ar yr amgylchedd mewn rhannau eraill o’r byd, gan ofyn i ni ein hunain y cwestiwn amlwg – “Beth os fasa ein teuluoedd ni’n dioddef am fod yna bobl ddi-hid yn manteisio arnom ni?”.  Yr enghraifft fwyaf perthnasol i ni yw cloddio am wraniwm, a’r effaith ddinistriol mae’n ei gael ledled y byd.[60] Mae llygredd, afiechyd ac effeithiau genetaidd yn rhemp yn ei sgîl.

  • Gwarchod a datblygu ein hiaith a’n diwylliant

Y strategaeth yw atgyfnerthu ac ymestyn ein hymdrechion i gefnogi’r Gymraeg fel ei bod yn berthnasol i bawb yng Ngwynedd a Môn.  Mae angen strategaeth sy’n llawer mwy eofn nag a welwyd.

Wrth gwrs, diolchwn am y camau breision a wnaed ym meysydd addysg a defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus, a diolchwn am y gefnogaeth a gawn gan y di-Gymraeg, brodorion neu fewnfudwyr.  Ar yr un pryd, rhaid derbyn fod yna un ai ddifaterwch neu elyniaeth at y Gymraeg gan nifer.

Mae angen llunio strategaethau newydd er mwyn cydnabod y sefyllfa fel y mae hi.

Credwn fod y strategaeth bresennol o harneisio’r ewyllys da at yr iaith sydd gan lawer o’r di-Gymraeg yn rhywbeth i’w gymeradwyo a’i ymestyn.  Hoffem weld cyllid ar gyfer cynlluniau trochi ar gyfer pob oed – nid plant newydd-ddyfodiaid yn unig.  Tra’n cydnabod na fyddai pawb sy’n ddi-Gymraeg eisiau manteisio ar hyn, credwn fod hwylustod a chost yn broblem i lawer ar hyn o bryd. 

Credwn fod angen strategaeth ar gyfer cyfarfodydd cymunedol lle nad oes yna gyfieithu ar y pryd wedi bod ar gael.  Er enghraifft cyfarfod o bwyllgor neuadd bentref – pryd mae’r cyfarfodydd hyn yn troi o’r Gymraeg i’r Saesneg er hwylustod mewn sawl cymuned?  Os ydym yn credu mewn cadw’r Gymraeg yn iaith y gymuned yna rhaid rhoi’r hyder i bobl ddefnyddio eu hiaith eu hunain.  Fel arall y canfyddiad yw mai ymylol yw’r Gymraeg, a mae’n tanseilio yn bellach hyder y Cymry Cymraeg.  Troi’r ddadl am gostau ar ei phen – drwy ddweud mai’r rhai sydd heb fedru’r iaith sy’n gyfrifol am gostau ychwanegol, yn lle bod y baich euogrwydd ar bobl sydd eisiau siarad Cymraeg yn gyhoeddus.

Er mwyn gwneud hyn, rhaid ystyried yr iaith ymhob maes – nid fel pwnc i’w gyfyngu neu i’w roi o’r neilltu.  Elfen bwysig o strategaeth o’r fath yw gwneud y Gymraeg yn hanfodol, yn hytrach na “dymunol”, ar gyfer llawer iawn mwy o swyddi na’r hyn a welwn ar hyn o bryd.  Yn amlwg, mae’r sector gyhoeddus yn fan cychwyn da, a dylai gynnwys asiantaethau Llywodraeth Llundain a Llywodraeth Cymru sydd hyd braich o’r llywodraethau.  Dro ar ôl tro, gwelwn apwyntiadau ar lefelau uchel cyrff o’r fath sy’n ddim byd ond cam ar yrfa Brydeinig – felly ‘does yna ddim llawer o bwysau i ddysgu Cymraeg, nac i apwyntio pobl sy’n medru’r Gymraeg yn y lle cyntaf.  Mae ethos cyrff o’r fath yn treiddio o’r brig i lawr.

Er mwyn bod yn effeithiol bydd angen adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a’i glustnodi ar gyfer yr iaith.  Gwneir gwaith arwrol gan athrawon a gan y Mentrau Iaith, ond annigonol yw’r adnoddau sydd ganddynt.

  • Datblygu gwytnwch a hyder yn ein cymunedau

Y strategaeth yw dangos gwerth ein cymunedau drwy ddefnyddio mesurau ychwanegol i’r rhai economaidd cul arferol.

Argymhellwn restru pethau cadarnhaol, megis adnoddau amgylchedd, ysgol ffyniannus, clybiau ieuenctid a henoed, gwasanaethau gwirfoddol, mentrau cymunedol, busnesau lleol.  Wedyn bydd modd dangos fod y pethau hyn yn medru cydblethu i godi hyder cymuned, wrth i un peth arwain at beth arall cadarnhaol.  Gall menter gymunedol ddefnyddio cyflenwyr lleol, sydd yn amlwg o fantais wrth atgyfnerthu’r economi leol.

Mae hanes Cwmni Bro Ffestiniog (gweler isod) yn cynnig esiampl y gellir ei fabwysiadu – wedi ei addasu i amgylchiadau penodol cymunedau eraill.  Bydd strategaeth lwyddiannus yn cynnig nawdd ac arbenigedd mewn meysydd arbenigol megis cyllid a rheoleiddio, ond ddim yn llawdrwm o fiwrocrataidd.  Hyd yma, mae yna sawl menter gymunedol, ond enghreifftiol ydyn nhw. Byddai cefnogaeth gryfach o’r math i gwmnïau mawr allanol yn golygu bod yna siawns dda i  amlhau’r mentrau hyn a byddai gwell siawns iddyn nhw lwyddo. Felly byddai hyder cymunedau yn codi a byddai eu gwytnwch – sydd yn aml wedi goroesi ar waethaf cawod o ergydion – yn cryfhau

Nod y strategaeth yw fod y gefnogaeth a ddaw o sawl cyfeiriad – y gymuned, y cynghorau sir, Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector – yn rhoi y siawns orau bosib i gael llwyddiant.  Byddai llwyddiant yn golygu mentrau cymunedol sy’n gwneud digon o elw i gynnal cyflogaeth, heb orfod dibynnu ar wirfoddolwyr drwy’r amser.  Byddai’n golygu fod busnesau lleol yn ffynnu ac yn tyfu drwy gydweithio efo mentrau cymunedol.

Canlyniad llwyddiant fyddai gwyrdroi’r meddylfryd o ddibyniaeth am ymwared á chynhaliaeth allanol.  Yn lle hynny, meddylfryd o falchder a hyder yn deillio o fedru rheoli cyfeiriad cymuned yn well, a theimlo fod penderfyniadau pwysig yn digwydd yn lleol.

  • Cynnig gobaith i’n hieuenctid

Y strategaeth yw i greu strwythurau sy’n dangos fod yna gyfleoedd, cefnogaeth a chroeso i’n hieuenctid.

Mae hyn yn golygu gwneud mwy na darparu addysg yn unig, er pwysiced hynny.  Mae’n golygu ystyried pa ddewisiadau sy ar gael yn barod, a pha ddewisiadau y gellir eu creu.  Yna gallwn eu rheoli fel eu bod yn atyniadol i’n hieuenctid, ac o fewn eu cyrraedd.  Dewisiadau o ran gwaith, tai, hamdden, celf, amgylchedd ac yn y blaen.  Yn amlwg mae heriau aruthrol, ond o ddilyn y strategaeth waelodol, sef dechrau o lefel cymuned a gweithio i fyny, credwn fod yna well siawns o ddatblygu amgylchiadau addas – a byddai hynny’n gallu bod yn wir ledled Gwynedd a Môn. 

I wneud hyn rhaid osgoi addewidion sy wedi eu llunio heb sicrwydd o’u gwireddu.  Afraid yw dweud fod cenhedlaeth o bobl ifanc wedi cael eu siomi efo Wylfa B – a dyna wers y dylai’r sector addysg ei dysgu drwyddi draw – ysgolion cyfun, Coleg Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor.

Mae angen i’r strategaeth edrych o ddifri ar y gwaith creiddiol sydd angen ei wneud a sicrhau fod ein pobl ifanc yn cael eu denu i waith megis gofal, cynnal a chadw tai, diwydiannau’r tir ac yn y blaen.  Nid damweiniol yw’r pwyslais swyddogol a welir ar y syniad o greu swyddi o “ansawdd da” (i ddefnyddio’r ymadrodd treuliedig), sydd yn aml iawn yn llwyddo i gadw hyrwyddwyr y swyddi hyn yn fras yn eu swyddi eu hunain – ond heb yn angenrheidiol arwain at swyddi a addewir i bobl ifanc.

Mae’r strategaeth yn gofyn felly am gymryd cam yn ôl a pheidio ac ailadrodd y strategaeth sydd wedi methu.  ‘Does dim byd o’i le ar ailystyried, ond teimlwn fod yna ddiwylliant, fe ymddengys, o fod ag ofn colli wyneb.

  • Cyfrannu at iechyd a lles

Y strategaeth yw ystyried gofalu am iechyd a lles fel peth sy’n treiddio drwy’n holl weithgaredd.  Mae disgwyl i’r Gwasanaeth Iechyd ddelio efo popeth yn afresymol.  Felly os yw amodau byw yn ffafriol bydd disgwyl i iechyd a lles y rhan fwyaf o bobl wella.

Pa amodau byw sy gennym dan sylw?  Mae tai a gwaith yn amlwg.  Ond mae yna bethau eraill, mwy “meddal” o ran y diffyg sylw a roddir iddynt, a hynny fel rheol am nad oes ffordd o’u mesur yn nhermau arian.  Dyma rai: ymdeimlad o gymuned (sy’n cynnwys cenedlaethau gwahanol yn parchu ei gilydd); amgylchedd; hamdden.  Mae eraill sy wedi eu tanseilio a diflannu yn benodol oherwydd fod modd rhoi mesur ariannol ar arbedion, ond dim mesur o’r costau cymdeithasol.  Dyma rai: banciau; ysgolion; siopau; meddygon teulu. 

Croesawn yr ymwybyddiaeth gynyddol o broblemau iechyd meddwl.  Cydnabyddwn fod yna ofynion cynyddol ar feddygon ac ysbytai am nifer o resymau.  Ond mae angen strategaeth sy’n mynd at wraidd y problemau hyn.  Felly law yn llaw á gwella amodau byw byddai’n dda fod yna sustem o weld os ydi ymdeimlad pobl fod eu iechyd a’u lles yn gwella neu waethygu o ganlyniad i newidiadau yn yr amodau byw hynny.  Gallwn awgrymu fod yna nifer o bethau i’w hystyried – gwaith (neu diffyg gwaith), natur y gwaith (e.e. oriau sero), patrymau bwyta, yfed, ysmygu, defnydd o gyffuriau (cyfreithlon ac anghyfreithlon).  Hynny yw, defnyddio mesurau ar ben mesurau ariannol.  Ac os am fesur yn ariannol, mesur beth yw effaith yn ei gyfanrwydd e.e. os yw ysgol neu fanc neu feddygfa yn cau, pa effaith mae hynny’n ei gael ar gostau teithio, effeithiau amgylcheddol, costau gofal iechyd ayyb.

  • Cadw perchnogaeth ac elw yn y gymuned

Y strategaeth yw i wneud ymdrech wirioneddol i wneud y mwyaf o’r economi greiddiol a’r economi gylchynol.  Ar ben hynny, creu amodau sy’n ffafriol i fentrau cymunedol a busnesau lleol drwy ddeddfwriaeth, a hefyd drwy gynnig cymorth i fentrau a busnesau gael y strwythurau cyllidol a rheoleiddio yn eu lle.

Credwn fod yna le i wneud llawer iawn mwy er mwyn i fusnesau lleol gael cymaint o’r gacen á sy’n bosib drwy’r broses caffael.  Mae yna adran ym Mhrifysgol Bangor efo arbenigedd yn y maes caffael, felly dylai fod yn bosibl llunio dogfennau sy’n rhoi siawns dda i fusnesau lleol.

Dylai strategaeth lwyddiannus sicrhau fod cyllid addas ar gael ar gyfer gofynion mentrau cymdeithasol.  Un o’r problemau yw fod yna angen am gyllid mewn cymunedau tlawd.  Ond mae buddsoddwyr yn aml eisiau cefnogi mentrau cymunedol ac amgylcheddol, felly dylid edrych yn fanwl ar ddatblygu hyn.

Mae angen strategaeth i geisio sicrhau nad ydi cwmnïau llwyddiannus lleol ddim yn cael eu llyncu gan gwmnïau eraill sydd fel rheol efo pencadlys yn bell i ffwrdd o gymuned gynhenid y busnes lleol.  Mae hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y rhan leol o’r busnes newydd yn cael ei gau i lawr neu ei israddio pan ddaw dirwasgiad.  Felly mae angen edrych ar ffyrdd o sicrhau fod yna ddatrysiad boddhaol i berchennog busnes lleol sy’n dymuno gwerthu a/neu ymddeol, lle nad oes yna neb amlwg, fel aelod o’r teulu, ar gael.  Gallai pryniant gan y gweithwyr fod yn ateb mewn ambell i achos, os yw’r busnes yn ddigon cadarn. 

Rhoddwn her uniongyrchol i’r canlynol:

  • Y strategaeth o geisio denu buddsoddiadau gan gwmnïau cyfalafol rhyngwladol
  • Y diwylliant o gynnig grantiau sylweddol i gynlluniau mawrion tra’n rhoi briwsion i gynlluniau cymunedol
  • Diwydiannau sy’n difetha’r amgylchedd
  • Y flaenoriaeth a roddir i’r diwydiannau rhyfel a niwclear yma

Credwn fod angen syniadau y gellid eu gweithredu:

  • Yn y tymor byr
  • Yn y tymor canolig
  • Dros yr hir dymor

Argymhellwn pob cymuned i ddatblygu ei Chynllun Datblygiad Amgen ei hun.

Byddai cynlluniau o’r fath yn ystyried:

  • Edrych ar enghreifftiau o gynlluniau llwyddiannus
  • Dadansoddi beth fu’r rhwystrau iddyn nhw
  • Awgrymu sut y gellid datblygu cynlluniau tebyg
  • Edrych ar wahanol fodelau o gyllido
  • Edrych ar beth all fod yn bosib fesul ardal

 

MEYSYDD a CHYNLLUNIAU DATBLYGIAD AMGEN

Ni allwn mewn dogfen fel hon sôn am bob maes posib, na chwaith ymdrin mewn manylder ag unrhyw faes.  Y bwriad yw cyflwyno ffordd o feddwl yn hytrach na datrysiadau manwl.

Economi, Cyllid a Swyddi

Egwyddor sylfaenol sydd gennym yw fod llawer o fusnesau neu fentrau cymunedol amrywiol yn llawer iawn mwy gwydn nac un busnes mawr yn cyflogi yr un nifer o weithwyr.  Yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol lle mae cymaint o weithfeydd mawr wedi cau neu grebachu (chwareli llechi, gwaith alwminiwm, gorsafoedd niwclear), rhaid wynebu’r ffaith fod y model cyfalafol wedi fod yn ddiffygiol yng Ngwynedd a Môn.  Yn aml, mae wedi gadael problemau enfawr i’w datrys – ond nid gan y cwmnïau a elwodd.

Gofynnwn i wleidyddion ar bob lefel roi blaenoriaeth a chefnogaeth i fentrau cymunedol a busnesau cymharol fychan sy wedi eu gwreiddio’n lleol.  Mae llwyddiant yn anodd yn y byd cyfoes, ond credwn fod y model cymunedol yn llwyddo, a gallai lwyddo mwy wrth i’r gefnogaeth gynyddu gan drigolion ein cymunedau a gan y peiriant gwleidyddol.

Gall Llywodraeth Cymru gefnogi economi drwy adleoli rhai o’u swyddfeydd i Wynedd a Môn, i ddechrau gwneud iawn am y cyfle a gollwyd ar ddechrau datganoli.  Pwysleisiwn eto rôl caffael gan lywodraethau canolog a lleol i roi hwb sylweddol i ni.

Fedrwn ni yn yr ardaloedd hyn fyth gystadlu o ran costau sefydlu a rhedeg busnes mawr sy’n dibynnu ar gyfalaf rhyngwladol – yr unig beth a wnawn yw cystadlu mewn “râs i’r gwaelod” o ran cyflogaeth, telerau gwaith, a rhaib amgylcheddol.

Bob tro y cawn addewidion am swyddi, dylid gofyn cwestiynau sylfaenol.  Swyddi i bwy?  Faint o swyddi?  Faint o’r swyddi gorau fedr pobl leol eu gwneud?  Beth ydi’r gost amgylcheddol?  Beth ydi’r costau gymdeithasol, diwylliannol a ieithyddol?  Beth fydd yn dilyn os fydd y prosiect yn methu?

Mae cyllid yn faes anodd ac arbenigol.  Gwyddom ei fod yn creu problemau i lawer o fusnesau a mentrau, a gwelsom gau cynifer o fanciau ar y Stryd Fawr fel fod rhaid holi o ddifri beth ddylid ei ddarparu yn eu lle.  Un o’r gofynion yw cael cymorth arbenigol am bris rhesymol.  Mae Banc Cambria [61]  yn cael ei ddatblygu, a rhaid gobeithio y bydd sefydliad o’r fath – ac eraill – yn medru ateb y diben.  Mae’n dda gweld fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r syniad o sefydlu system o gyfnewid credydau rhwng busnesau yn lle cyfnewid arian am gael ei dreialu yng Ngogledd Cymru yn dilyn gwaith gan Eifion Williams o Circular Economy Wales.[62]

Ers gormod o amser, mae diffyg llythrennedd ariannol wedi bod yn rhwystr.  Bydd addysg ariannol yn bwysig er sicrhau llwyddiant economaidd.

Anodd darogan mewn cyfnod ansefydlog fel hwn beth fydd canllawiau a gofynion statudol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol o ran telerau, oriau gwaith, pensiynau ac yn y blaen.  Er hynny, dylem amcanu at amrywiaeth o swyddi sydd heb fod yn orddibynnol ar un farchnad na llond dwrn o gyflogwyr.

Dylem hefyd ddeall fod y patrwm presennol o weithio oriau cynyddol gan bob oedolyn yn y cartref er mwyn ceisio (ac o bosib methu) cadw dau pen llinyn ynghyd, yn un sy’n dod efo cost gymdeithasol enfawr i deuluoedd ac i iechyd corff a meddwl.  Mae yn ei hanfod yn creu poblogaeth sy’n flinedig, yn ddi-fflach ac yn ddiobaith.

Disgwylir y bydd awtomeiddio yn gwneud i ffwrdd a llawer o swyddi, fel y mae wedi gwneud ers blynyddoedd, ond bydd hyn yn ymestyn i feysydd ehangach.  Fel y bu efo dyfodiad cyfrifiaduron, mae’n bosibl darogan na fydd angen gweithio cymaint er mwyn creu yr un cyfoeth.  Y broblem ydi fod y rhai mewn gwaith heb weld hynny’n digwydd tra mae perchnogion y busnes cyfalafol yn crynhoi mwy a mwy o gyfoeth.  Ac wrth gwrs mae y rhai sy’n colli eu swyddi yn cael eu gweld fel baich a phroblem yn lle cael eu gweld fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas – a gall hyn arwain at  broblemau iechyd corff a meddwl.

Felly mae gwir angen ailddyfeisio beth yn hollol fydd natur gwaith yn y dyfodol, a sut y byddwn yn rhannu perchnogaeth ac elw o weithgaredd pobl.  Yn amlwg, mae gofyn i hyn ddigwydd ymhellach na Gwynedd a Môn, ond gallwn arwain y ffordd.

Credwn hefyd y byddai’n dda os byddai gwaith ar gael i bobl yn agos at eu cartrefi i raddau llawer mwy.  Canolwyd gwaith am fod ceir ar gael (gweler yr adran ar drafnidiaeth isod).  Felly mae llawer o bentrefi a threfi yn dawel a difywyd yn ystod y dydd.  A mae hyn yn gysylltiedig efo dirywiad y stryd fawr.

Fel y  bydd yn rhaid dyfeisio ffyrdd newydd o edrych ar waith, mae angen ailddyfeisio’r stryd fawr.  Gellir yn deg ddadlau fod llawer o swyddi wedi eu colli am fod archfarchnadoedd wedi llwyddo – a hynny drwy gael caniatâd cynllunio yn y lle cyntaf.  Gan na ellir dadwneud hynny ar chwarae bach, buddiol yw gofyn pam fod ambell i dref a phentref yn llwyddo i ffynnu, tra bod llawer yn dirywio i fod yn gysgod o’r hyn a fu?  Nid oes atebion hawdd – ond gellir dweud fod talu am barcio yn faen tramgwydd i lawer; fod prinder trafnidiaeth gyhoeddus yn broblem; fod busnesau yn cael trafferth talu am eu costau heb sôn am wneud elw; a fod llywodraeth yn rhoi cymorth efo treth fusnes.  Efallai mai yr hyn sydd ei angen yw gofyn i bob cymuned beth fyddai’n gwneud y stryd fawr yn well iddyn nhw.  Ai siopa yw’r prif bwrpas erbyn hyn?  Byddai’n ddiddorol llunio strategaethau penodol ar sail gwaith o’r fath.  Fodd bynnag, credwn mai egwyddor sylfaenol yw cael y stryd fawr yn lle y mae pobl yn mwynhau mynd am ba resymau bynnag, ac yn rhoi lle sy’n cynnig cyfle i gymdeithasu, gwneud busnes, hamddena, ac edrych ar sut i gael pobl i fyw yn y tai eto.

Tai a Chartrefi

Tai yw un o bynciau mwyaf dyrys Gwynedd a Môn.  Gallwn yn fras ystyried beth yw’r “penawdau”.

  • Cost tai

Yn Chwefror 2019, cost tŷ ar gyfartaledd yng Ngwynedd oedd £155,857, ac ym Môn £176,898.[63]  

 Mae cost tai sy’n dod ar y farchnad yn aml yn rhy uchel i bobl leol, yn enwedig pobl ifanc, fedru eu prynu.  Y rheswm yw fod yr economi leol wedi ei hesgeuluso i’r fath raddau fel na fedr pobl leol gystadlu efo pobl o’r tu allan sydd â digon o gyfalaf i brynu’r tai.  Gallwn ddweud fod hwn yn un rheswm pam fod ieuenctid yn gorfod gadael i chwilio am waith er mwyn medru prynu tŷ.

  • Safon tai

Stoc tai Cymru yw’r hynaf yn y DG.  O’r herwydd mae yna gostau cynhesu uwch, ac afiechyd y gellid ei arbed.  Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 18.% o’n tai yn beryg i iechyd; mae tai gwael yn costio £1 biliwn i’r gymdeithas yma; a mae tai gwael yn costio mwy na £95 miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd.[64]  Byddai gwella safon tai yn dda i’n cymunedau ac yn creu gwaith.  Dylid parhau efo’r cynllun Energy Company Obligation i wella perfformiad cadwraeth ynni tai.[65]

  • Perchnogaeth a defnydd tai

Hunan-berchnogwyr biau  65.4% o dai yng Ngwynedd a mae 15.4% ohonynt ar rent.  Ceir ystadegau trylwyr gan y cynghorau.[66]  Mae cyfran uchel o dai a ddaw ar y farchnad yn cael eu gwerthu i fod yn ail gartrefi neu yn dai i’w gosod ar gyfer gwyliau.   Yn 2017 yr oedd 27% o’r tai oedd ar werth yng Ngwynedd yn cael eu prynu’n ail gartrefi, a’u pris ar gyfartaledd oedd  £289,182; ond awgryma’r ffigurau diweddaraf ar gyfer y sir fod cartrefi gwyliau bellach yn 39% o’r holl eiddo a werthwyd yno yn 2017-18. Yr unig ardaloedd ym Mhrydain lle ceir canrannau uwch o ail gartrefi yw Kensington a Chelsea, a Westminster. Effaith hyn dros nifer o flynyddoedd yw fod llawer o dai sydd yn wag am y rhan fwyaf o’r flwyddyn.  Gwelir rhai pentrefi sy’n troi’n gysgodion o bentrefi yn y gaeaf.  Gallwn gymeradwyo mesurau a gymerwyd gan Gynghorau Gwynedd a Môn i godi treth ar ail gartrefi – mesur sydd wedi dod â miliynau i’r coffrau cyhoeddus yn barod.

Mae’n eglur fod yn rhaid cael chwyldro yn y ffordd yr edrychwn ar dai a’r ddelfryd o berchnogi tai.  Gellid dadlau bod y system bresennol, tra’n ymddangos yn beth da i rai a brynodd dai flynyddoedd yn ôl neu a etifeddodd eiddo – gan ei fod yn chwyddo eu cyfoeth –  eto i gyd yn golygu fod yna broblemau dyrys yn pentyrru i lawer o bobl eraill.  Yn y bôn, anghyfartaledd mewn adnoddau ariannol sydd wrth wraidd y broblem, a hynny’n deillio o ddiffygion yn system economaidd y Deyrnas Gyfunol, a’r ffordd y mae adnoddau yn crynhoi mewn llai a llai o ddwylo.

A oes yna atebion rhwydd?  Nac oes.  Ond hoffem gynnig rhai pethau i’w trafod.

Gan gydnabod fod yna le i’r diwydiant twristiaeth, credwn fod gor-dwristiaeth wedi creu problemau dybryd.  Un o’r prif broblemau yw fod gormod o dai mewn sawl lle yn cael eu gosod i ymwelwyr neu yn ail gartrefi. Mae’r ffaith fod Airbnb bellach wedi esblygu o fod yn ddull o osod stafell sbâr i fod yn ddull o gyfiawnhau prynu tŷ a’i osod ar gyfer gwyliau wedi ychwanegu at y broblem, gan fod rhai yn prynu tai i’r pwrpas hwnnw.

O ganlyniad mae’r tai hyn i bob pwrpas heb fod yn rhan o’r stoc tai i bobl leol wedyn.  Mae hyn yn drychinebus i’n cymunedau.

Cynigiwn felly fod yna uchafswm o dai mewn cymuned benodol yn cael bod yn dai haf neu ail gartrefi neu ar osod drwy Airbnb.  Dylai hyn gael sylw ymhob cymuned, nid yn unig y rhai sy’n cael eu hystyried yn bentrefi gwyliau yn unig.

Mae Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn yn clustnodi tir ar gyfer codi miloedd o dai.  Cafwyd gwrthwynebiad taer i hyn, am nad oedd y cynlluniau yn cael eu gweld yn addas ar gyfer ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf, a hefyd gan fod y ragdybiaeth am Wylfa B y tu ôl i’r niferoedd.  Credwn y dylid edrych ar y niferoedd eto.  Ochr yn ochr â hyn mae angen cydnabod fod yna gymaint o dai gweigion fel y gellid dadlau mai dyna yw’r wir broblem dai – sef sut i’w cael yn ôl i’w priod le fel tai i bobl leol.

Awgrymwn fod yna le i geisio creu unedau o dai mewn trefi a phentrefi sydd wedi dirywio, fel rhan o’r ymdrech i adnewyddu’r stryd fawr.

Trafnidiaeth

Credwn fod cyfle arbennig yn y blynyddoedd nesaf i fod yn arloesol a chreadigol wrth ddyfeisio sut i symud pobl a nwyddau o un lle i’r llall.  Nid gor-ddweud yw honni y  byddwn yn cael ein gorfodi i newid, a’r newid yn cael ei orfodi arnom gan yr angen i leihau allyriadau carbon, a’r angen – nas trafodir cymaint – i beidio â defnyddio cymaint o adnoddau naturiol sy’n prinhau a/neu creu llygredd ar gyfer adeiladu ceir.

Bydd ceir trydan ac o bosib rhai hydrogen yn disodli ceir tanwydd carbon, a rhaid canmol Cyngor Gwynedd efo’u ceir trydan nhw sy’n goleuo’r llwybr.  Credwn fodd bynnag nad oes yna ddiben newid tanwydd yn unig – dylem fod yn lleihau y nifer o geir ar y ffyrdd, a thorri i lawr ar y siwrneiau unigol a wnawn.  Mae’n siŵr ein bod ni i gyd yn cael y car yn rhy hwylus i fod eisiau ei roi o’r neilltu yn amlach na pheidio.  Ond y gwir yw mai argaeledd ceir am brisiau fforddiadwy i’r rhan fwyaf o’r boblogaeth sydd wedi arwain at lawer o’r problemau a welwn, a hynny ar ben y broblem carbon.  Un enghraifft yn unig yw fod teithio milltiroedd lawer i’r gwaith yn beth derbyniol, ac yn wir yn ddisgwyledig.  Felly canolwyd gwaith, aeth pentrefi’n lefydd i gysgu yn unig, collwyd y rhan fwyaf o adnoddau pentrefi a threfi llai, cafwyd dirywiad mewn iechyd corfforol oherwydd diffyg ymarfer corff.

Ar ben hynny, mae amlhau ceir wedi mynd law yn llaw efo lleihau trafnidiaeth gyhoeddus.  Ydi hi’n rhy amlwg dweud bod rhaid adfer trafnidiaeth gyhoeddus i’w briod le?  Cludiant dibynadwy, rhesymol ei bris, ac amserol.  Mae hyn yn golygu bysiau a threnau.  Yng nghefn gwlad, mae llawer mwy o ddibyniaeth ar geir, ond gellid byrhau llawer o siwrneiau os byddai cludiant cyhoeddus yn hwylus yn y pentref neu dref agosaf.  Ac wrth gwrs gellid dadlau fod yna le i fwy o dacsis wneud busnes os byddai’r amgylchiadau economaidd yn newid.

Eto i gyd, mae gwleidyddion a’r diwydiannau sy’n elwa o’r system bresennol yn dal i fynnu mai adeiladu mwy o ffyrdd yw’r ateb i broblemau trafnidiaeth – fel y trafodwyd yn achos trydedd pont dros y Fenai.

Pwysleisiwn eto bwysigrwydd adfer cludiant cyhoeddus.

Argymhellwn fuddsoddiad arbennig yn y system reilffyrdd.  Mae’n gywilyddus nad oes yna reilffordd ar hyd y Gorllewin i’n cysylltu ni yma efo’r de, tra mae Llywodraeth Llundain yn dal i fynnu gwario arian aruthrol – oedd yn cael ei amcangyfrif yn £34 biliwn yn wreiddiol ond sydd erbyn hyn yn £88 biliwn[67] – ar reilffordd HS2, a fydd yn lleihau siwrnai i Lundain o ryw hanner awr!  A mi ydan ni heb reilffordd o gwbl dros ddarnau helaeth o’n tiriogaeth.  Bydd ein pobl ni yn cyfrannu at gost HS2 heb gael dim budd.  Byddai buddsoddi yn ein rheilffyrdd ni wrth gwrs yn rhoi hwb i’r economi wrth adeiladu, a byddai defnydd o’r rheilffordd yn ychwanegu at werth yr economi.

Cynhyrchu a Chadwraeth Ynni

Trafodwyd digon yn y ddogfen hon a mannau eraill am gynlluniau enfawr a drud i ddarparu ynni.  Ychydig, mewn cymhariaeth, o drafod a gafwyd yn unman am syniadau amgen y maes ynni, yn arbennig o safbwynt cymunedol.  Os yr un, y gwrthwynebiad i ffermydd gwynt ac i beilonau sydd wedi cael y sylw pennaf.

Oes yna ffyrdd o hybu ynni adnewyddadwy sy’n medru diwallu yr angen lleol, yn cadw elw yn y gymuned, ac yn goresgyn  gwrthwynebiadau?  Oes yna ffyrdd i leihau’r galw am ynni?

Mae sawl enghraifft yng Ngwynedd o gynlluniau ynni cymunedol sy’n llwyddiannus.  Gwyddom mai ymdrech enfawr a phenderfyniad sy wedi  galluogi’r llwyddiant.  Hoffem weld llawer mwy o gefnogaeth i fentrau o’r fath, drwy hwyluso’r llwybr cyllidol a deddfwriaethol.  Mae angen i bobl leol deimlo nad ydyn nhw’n cael eu llethu gan gymhlethdod y broses a’r amser hir mae’n ei gymryd i wireddu prosiect.  Pan ystyriwn pa mor effeithiol mae’r cynlluniau hyn wedi bod ar waetha’r ffaith mai cymharol fychan ydyn nhw, gallwn ragweld trawsnewidiad mewn cymunedau os gellir atgynhyrchu’r model ledled ein hardaloedd.

Yn y cyswllt hwn, mae gan lywodraeth leol le pwysig a byddem yn croesawu sefydlu oddi mewn i’r Cynghorau Sir adrannau sy’n canolbwyntio ar gefnogi mentrau cymunedol.  Pam na ellir dargyfeirio’r adnoddau helaeth a roddwyd ar gyfer hwyluso Wylfa ar gyfer hwyluso ynni adnewyddol cymunedol?  Yn ogystal dylai’r adrannau wneud y gwaith pwysig iawn o ymchwilio i feysydd megis defnyddio adeiladau ac eiddo cyhoeddus ar gyfer cynhyrchu ynni.  Mae sawl enghraifft o hyn ym Mhrydain – ond ddim yng Ngwynedd a Môn – ar waetha’r brolio am ‘Ynys Ynni’.  Ar ben hynny, mae’r syniad o ‘grid lleol’ yn ennill hygrededd – gwelwn fod yna rôl bwysig gan lywodraeth leol i hyrwyddo hyn.

 Mae gwaith mawr angen ei wneud ar arbed ynni – dyma’r ffordd fwyaf cyflym a chost-effeithiol o leihau allyriadau carbon.  Nodwn fod ymchwil yn dangos y gallai arbed ynni mewn tai yn effeithlon yn y Deyrnas Gyfunol fod gyfwerth a’r ynni y byddai 6 gorsaf niwclear fel Hinkley C yn ei gynhyrchu!  Ac eto ychydig iawn a glywir am hyn – y gwir yw fod y farchnad gyfalafol am i ni i gyd brynu mwy o ynni yn hytrach na’i arbed.  Elw heddiw, ein plant yn talu’r pris.

Gellid mynd cyn belled ac awgrymu y gallai cyngor sir, neu gorff hyd braich, fod yn ddarparwr ynni ei hun – ac wrth wneud cyfrannu at yr ymdrech i ymladd tlodi tanwydd.  Byddai hyn yn cael ei integreiddio efo cynlluniau presennol sydd ar waith i wella perfformiad ynni y stoc dai.  Credwn fod syniadau sy’n cael eu treialu yn Nyffryn Ogwen (e.e. darparu trydan yn rhatach) yn cynnig ffordd ymlaen i gymunedau eraill.

Mae technoleg yn galluogi newid yn y system o ddibynnu yn llwyr ar y ‘6 mawr’ ar gyfer ynni.  Mae modd cynhyrchu ynni mewn sawl dull adnewyddol, ei storio nes bydd angen, a’i werthu a’i ddosbarthu yn lleol.  Y dasg i’n cymunedau yw manteisio ar y posibiliad hwn.  Y cyngor sir yw’r corff amlwg i hwyluso hynny, mewn cydweithrediad efo cymunedau a’r rhwydwaith o gyrff ac arbenigwyr ardderchog sydd ar gael yng Ngwynedd a Môn, megis Ynni Teg, Datblygiadau Egni Gwledig ac Open Energy Monitor.[68] [69] [70]  Gallwn astudio yr hyn sy’n digwydd ar Ynysoedd Erch yn y cyswllt hwn.[71]

Y llinyn arian yw’r angen i bobl deimlo mai nhw biau datblygiadau ynni, a’u bod yn gweithio er eu lles nhw.  Tybed mai’r teimlad nad ydi cynlluniau adnewyddol mawr yn gwneud hyn sy’n rhannol gyfrifol am wrthwynebiadau?  Mae angen llawer mwy o ymdrech i ddod i drefniant sy’n rhoi mwy o reolaeth o’r adnodd a ddefnyddir (gwynt, haul, dŵr) i’n cymunedau.  A sicrhau fod datblygiadau o faint cymesur â’r tirlun.  Man cychwyn unrhyw drafod rhwng datblygwyr ac awdurdodau lleol ddylai fod – sut mae modd creu partneriaeth sy’n debygol o roi’r budd gorau bosib i’n pobl ni?  Gwyddom mai dyna yw amcan cynllun Morlais.  Mater arall yw pwy sy’n rheoli’r arian a dderbynnir, a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio.

Mewn dwy sir sy’n gyforiog o ffynonellau ynni adnewyddadwy, ‘does yna ddim rheswm dros dlodi tanwydd yn y dyfodol.  Ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar bwy sy’n rheoli’r  adnoddau naturiol a’u perchnogi.

Amaeth a Bwyd

Ystrydeb yw dweud mai amaeth a’r fferm deuluol yw asgwrn cefn y gymdeithas wledig, ac wedi bod ers canrifoedd.  Mae’n cynnal y diwylliant a’r iaith yn ogystal â chynhyrchu bwyd a gofalu am y tirlun.  Ond mae’n ddiwydiant sy’n wynebu pob math o broblemau.  Ansicrwydd ar ôl Brecsit, gweithlu sy’n heneiddio, problem olyniaeth yn y busnes, gwasgfa ar brisiau gan archfarchnadoedd, gor-ddibyniaeth ar y sector cig a godro, TB a’r gost ddynol ac ariannol sy ynghlwm â’r clefyd, y pwysau i ddwysau ffermio ar waetha’r holl dystiolaeth na ellir cynnal hynny.  Ar ben hynny mae unigrwydd a phroblemau meddyliol ar gynnydd.

Troes galwedigaeth lle ‘roedd pobl yn gweithio ochr yn ochr yn frwydr unigolion i oroesi dan bwysau cynyddol.

Mae’r ymdeimlad o fod dan warchae yn amlygu ei hun mewn gwahanol ffyrdd – e.e. y teimlad nad ydi pobl yn deall ffermio nac yn gwerthfawrogi ei gyfraniad; yr ymateb i lysieuwyr a feganiaid; y cwyno am y baich o waith papur o du Llywodraeth a chyrff eraill; y pwysau gan bleidwyr ail-wylltio.  Byddai diwydiant hyderus yn wynebu heriau fel hyn yn gadarnhaol.

Felly mae yna gwestiwn sylfaenol – sut mae modd cynnal ffermydd teuluol?

Gwelwn fod yna ddechrau trafod o fewn y diwydiant am sut i wynebu heriau a newidiadau’r dyfodol.  Credwn fod yna le i gymunedau a’r gymdeithas ehangach gael rhan yn y trafod, a thrafod o safbwynt gwybodaeth ar y ddwy ochr yn hytrach na rhagfarnau.

Sut allwn ni ddefnyddio tir ar gyfer sawl deilliant?  Sut mae modd cael gwell dealltwriaeth rhwng ffermwyr a’r cyhoedd?   Sut mae sicrhau bywoliaeth resymol i ffermwyr?   Sut mae gwrthsefyll dwysau ffermio?  Sut i gynnig ffyrdd i bobl ifanc i mewn i’r diwydiant – yn enwedig os nad oes ganddyn nhw dir yn y teulu.

Ac o safbwynt ein cymunedau, sut i atal agri-fusnes rhag suddo ei grafangau cyfalafol dinistriol yn ddyfnach yn y diwydiant?  Pendraw hynny yw dileu y fferm deuluol, llygredd amgylcheddol, gorddefnydd o wrtaith artiffisial a phlaleiddiaid, lleihau bioamrywiaeth.  Ceir dadansoddiad manwl yn y llyfr ‘Farmageddon: the true cost of cheap meat’.[72]  Beth sy’n drawiadol yw fod modd dadlau y byddai llawer o ffermwyr yng Nghymru yn derbyn dadansoddiad tebyg, ond heb wybod sut i atal y peiriant agri-fusnes.  Mewn gwirionedd rhaid i lywodraethau gydweithio ar raddfa nas gwelwyd o’r blaen – ni fydd ymdrechion ffermwyr ar eu pennau eu hunain yn troi’r llanw yn ei ôl.  Un o’r gwirioneddau am ffermio yng Nghymru, yn enwedig yn yr ucheldir, yw ei fod yn gynaliadwy fwy neu lai yn ei ffurf bresennol o ran cadw anifeiliaid, a’r broblem yw prisiau’r farchnad sy’n gorfodi uno ffermydd yn un busnes, a sydd felly dros amser yn colli teuluoedd o’r ardaloedd.

Dylid edrych ar ffyrdd o ffermio sy’n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol a chymdeithasol.  O dan y drefn fel y mae hi, mae’n anodd cynnal fferm yn economaidd heb orfod aberthu cyfran neu’r oll o’r buddiannau eraill.

Beth allai fod yn syniadau posib ar gyfer amaethwyr a’u cymunedau lleol?

Gallwn argymell y mathau o fentrau cydweithredol a chymunedol ar batrwm Tyddyn Teg, Bethel, Gwynedd[73] a Cae Rhys, Tŷ Ddewi, Sir Benfro.[74]  Mae’n arwyddocaol nodi mai cyfran gymharol fechan o’r tir sy ar gael a ddefnyddir gan y rhain, felly mae’r model yn cynnig potensial llawer mwy.  Byddai mwy o fentrau fel hyn yn ailgysylltu pobl efo’u bwyd, yn creu cymuned o gwmpas y gweithgaredd ar y fferm ac yn cryfhau’r berthynas efo’r ardal leol, yn gynaliadwy, ac wrth gwrs yn cadw elw o fewn y gymuned.

Gwyddom fod angen isadeiledd i fedru prosesu a dosbarthu cynnyrch, yn llysiau ac yn gig.  Credwn fod yna le i adeiladu’n sylweddol ar y gwaith da sydd wedi ei wneud gan rai busnesau lleol gyda chymorth asiantaethau a llywodraeth i “ychwanegu gwerth” at eu cynnyrch.  A gwelwn fod yna broblemau sy’n creu anfanteision costus am fod adnoddau lleol megis lladd-dai wedi cau.

Byddem yn awgrymu fod angen ystyried beth fyddai’n bosib ei wneud y tu hwnt i greu “gwerth ychwanegol” i gynnyrch fferm, er mor ddymunol ydi hynny.  Onid oes yna le i edrych go iawn ar sut i ddarparu bwyd lleol am bris rhesymol i bawb o fewn cymuned?  Ydi hi’n synhwyrol fod ein ffermwyr, mewn ymateb i brisiau gwael gartref, yn gorfod poeni am farchnadoedd i allforio iddyn nhw pan fod angen eu cynnyrch yma?  Cofiwn mai tua 60% o’r bwyd sydd ei angen a dyfir yma, a mae’r ganran wedi disgyn yn gyson dros y degawadu diweddar.  Ac eto mae 86% yn dymuno prynu bwyd lleol![75]

Twristiaeth a Hamdden

Cyfeiriwyd yn barod at rai o’r problemau a ddaw yn dilyn gor-dwristiaeth.  Ond wrth gwrs mae twristiaeth yn cynnig ffon fara ar adeg pan mae cyflogaeth yn y diwydiannau traddodiadol wedi mynd.  Gall gynnig incwm ychwanegol i fusnesau drwy ddefnyddio adeiladau a fyddai fel arall yn segur – fel mae nifer o fusnesau fferm yn gwybod.  Gall gynnig gwaith lle nad oes yna fawr o ddim byd arall ar gael.  Gall gynnig llwybr gyrfa lwyddiannus.

Mae ochr arall i’r geiniog.  Gwaith tymhorol, ansicr, efo cytundeb gwaith oriau sero.  Pentrefi’n troi i fod yn gysgodion o gymunedau.  Pwysau gormod o bobl yn medru creu problemau erydiad ar lwybrau.  Ymwelwyr yn aros mewn carafannau sefydlog a dod â’u bwyd efo nhw, a dim ond gwario ychydig yn lleol.

Mae twristiaeth yn bwysig.  Onid yw’n rhesymol i’w reoli yn  hytrach na’i fod yn fwystfil sy’n gyrru newidiadau sy’n niweidio ein cymunedau?  Cyfeiriwyd at rai syniadau yn yr adran ‘Tai a Chartrefi’.  Yn gryno, cydnabod fod twristiaeth yn adnodd i’w reoli yn ofalus – lle mae’r pwysau mwyaf yn enwedig.  A sylweddoli na ellir dadwneud ambell i beth – e.e. safleoedd anferth yn llawn o garafanau sefydlog.

Gwyddom fod yna lawer o waith wedi ei wneud i hybu ymweliadau gan bobl drwy gydol y flwyddyn, i hybu themâu penodol (e.e. natur, geoleg, cerdded, celfyddyd,hanes, treftadaeth) a fydd yn ceisio denu ymwelwyr sy am barchu yr hyn sydd gennym.  Da o beth yw hynny.

Credwn fod yna le i fentrau cymunedol i fanteisio – mae egin hyn wedi cychwyn yn barod yn Llety Arall, Caernarfon;[76] a Siop Griffiths, Penygroes.[77]  Bydd cydweithredu rhwng y mentrau yn eu grymuso fel y medrant ddatblygu ymhellach ac yn y pendraw sefydlu rhwydwaith.

Addysg a Hyfforddiant

Credwn fod addysg berthnasol yn greiddiol i blentyn ddeall cefndir ei gymuned, amgyffred beth yw cymuned, a dysgu sgiliau fydd yn y pendraw yn rhoi siawns dda o gael gwaith.  Dylai fod dewis go iawn i’r oedolyn ifanc ym mhendraw’r broses i gael gwaith yn lleol, os dyna yw dymuniad yr unigolyn.

Mae’r pwyslais a roddir ar y gwyddorau i’w ganmol, ond nid yw hynny’n cyfiawnhau rhoi lle eilradd i’r celfyddydau.  Pwrpas addysg yw creu dinasyddion da a chymeriadau crwn – tasg sy’n ddibynnol ar ysgolion a chartrefi.  Dydi gorbwyslais ar arholiadau a rhoi pwysau trwm ar athrawon am ganlyniadau ddim yn gynaliadwy.  Gwyddom ei fod yn arwain at afiechyd corff a meddwl yn rhy aml, i ddisgyblion ac athrawon.  Mae anallu’r proffesiwn i gadw athrawon yn dystiolaeth ddigonol.[78]

Dylid edrych ar addysg o fewn cyd-destun y gymuned leol ac yna ehangu gorwelion y disgybl fesul tipyn fel y bydd yn amgyffred sut mae ef neu hi fel unigolyn yn rhan o deulu dynoliaeth dros y byd.  Felly mae angen sylfaen o addysg gynradd yn gadarn o fewn y gymuned – mae cau ysgolion gwledig llwyddiannus yn mynd yn groes i’r syniadaeth yma.

Pryderwn y bydd y cwricwlwm cenedlaethol newydd yn galluogi, o bosib, amrywiaeth mawr o fewn sir o beth fydd yn cael ei ddysgu neu beidio.  Felly gall un ysgol ddysgu llawer am hanes lleol tra bydd un gyfagos yn dysgu’r nesaf peth i ddim.  Gall un ysgol arbenigo yn y gwyddorau, dyweder, a chreu trafferthion a dryswch i rieni wrth geisio gwneud y gorau i’w plant, a chystadleuaeth rhwng ysgolion.

Gwelwyd twf aruthrol ar gampws Llangefni o Goleg Llandrillo-Menai, yn bennaf oherwydd y disgwyliad fod Wylfa yn dod.  Rhaid bellach edrych ar sut i ddefnyddio’r cyfleusterau  a’r sgiliau a ddysgwyd yno ar gyfer meysydd eraill.  Ond rhaid gofyn cwestiwn pur sylfaenol – ydi colegau fel hyn yn ehangu am fod gwir angen, neu oes yna beryg iddyn nhw gael eu creu fel ymerodraethau biwrocrataidd?

Ar adegau, mae’n anodd gweld cysylltiad rhwng Prifysgol Bangor a’r ardaloedd a roddodd fodolaeth iddi.  Enghraifft berffaith oedd y penderfyniad i gau’r adran oedd yn mynd allan i’r gymuned i gynnal dosbarthiadau.  Mae obsesiwn y Brifysgol efo’r diwydiant niwclear a’r ffordd y mae crafangau y diwydiant hwnnw wedi ymledu drwy’r byd addysg (o’r cynradd i fyny) yn beth i resynu ato.  Pam na fedr y Brifysgol ganolbwyntio ar wasanaethu ei hardal yn lle ymfalchïo yn ei gysylltiadau efo’r Northern Powerhouse?  Ar ben hynny, mae’r ffordd y tyfodd y Brifysgol wedi troi rhannau helaeth o Fangor yn drigfannau i fyfyrwyr – bu’n rhaid i’r boblogaeth gynhenid symud allan o ardaloedd fel Hirael.  Felly mae’r Brifysgol wedi bod yn fodd o ddifetha cymuned, yn lle ei chynnal.

Credwn mai lle’r byd addysg drwyddo draw yw bod yn gefn i’w cymunedau yn gyntaf, a thrwy broses adeiladol a chynhwysol feithrin cysylltiadau academaidd a dynol â gweddill y byd.  ‘Dechrau wrth dy draed’ cyn codi golygon tua’r gorwel.

Technoleg Gwybodaeth

Aeth degawdau heibio ers i’r chwyldro cyfrifiadurol drawsnewid ein byd.  ‘Does dim argoel fod y newid yn arafu dim!

Mae dewisiadau yn y ffordd yr ymatebwn o ran polisïau.  Ydyn ni’n hyrwyddo sgiliau sgwennu côd a datblygu meddalwedd?  Neu ydi hi’n well i ni ganolbwyntio ar sut i ddefnyddio’r meddalwedd yn greadigol?  Tipyn o’r ddau, gyda mwy o bwyslais ar yr ail efallai.

Crewyd diwydiannau newydd gan y dechnoleg newydd, a difrodwyd rhai eraill.  Caniataodd i dasgau gael eu gwneud ynghynt, ond eto i gyd dydi baich gwaith ddim wedi ei ysgafnhau.  Credwn mai’r dasg yw dysgu sut i ddefnyddio technoleg er ein lles, yn lle gadael i’r defnydd o dechnoleg ein gorthrymu.

Y methiant i ddeall goblygiadau gallu technoleg i fesur cymaint o bethau, eu cofnodi’n rhwydd, a’u galw i gof, sydd wedi galluogi i systemau rheolaeth gormesol ffynnu mewn busnesau a sefydliadau.  Hynny yw, y camddefnydd o ddata, ond mewn ffordd wahanol i’r syniad arferol o gamddefnydd sy’n ymwneud â phreifatrwydd.  Mae teimlad gweithwyr eu bod yn cael eu gwylio’n ddi-baid yn un o’r ffactorau sy’n medru cael effaith andwyol ar iechyd.  Dylid llunio gweithdrefnau sy’n rhyddhau gweithwyr i gyflawni yn hytrach na chrebachu.

Nid sylwadau penodol i Wynedd a Môn yw rhain, wrth gwrs, ond credwn fod y meddylfryd a argymhellwn yn gyson efo’n syniadaeth yn y ddogfen hon.

Celfyddydau

Mae celfyddyd yn perthyn i bawb.  Adnodd gwerthfawr sydd ei angen ar gyfer melysu ein bywydau, nid rhywbeth sy’n cael ei weld fel cost y gellir ei arbed pan fydd angen toriadau mewn cyllid.

Credwn fod yna le i ymestyn y defnydd o gelf a chelfyddyd gyhoeddus, sydd yn barod yn cael ei werthfawrogi a’i hyrwyddo yn ein hardaloedd.  Popeth o berfformiadau byw, dramâu, cerddoriaeth, cerfluniau mewn mannau cyhoeddus, murluniau ac yn y blaen.  Gall wneud cyfraniad gwerthfawr at adnewyddu ac ailddyfeisio’r stryd fawr.

Mae Gwyliau yn creu llwyfan i artistiaid, yn diddori pobl leol ac ymwelwyr, yn ychwanegu at yr economi leol, ac yn dod â chymunedau at ei gilydd.  Gallant amrywio o ddigwyddiadau fel Gŵyl Arall yng Nghaernarfon, i Steddfod bentref a charnifal stryd.  Mae rhywbeth i bawb!

Un o’r cyfraniadau nas gellir yn hawdd ei fesur – ac am hynny mae’n hawdd cyfiawnhau toriadau i’r celfyddydau o’r pwrs cyhoeddus – yw fod celfyddyd yn cynnig dehongliad i gymuned o’i lle yn y byd.  Mewn cyfnod ansicr, mae’n teimlo’n well a mwy hyderus o’r herwydd.  Felly am sawl rheswm, parchwn artistiaid o bob math a pheidiwn ag edrych ar eu cyfraniad fel un ymylol y gellid yn hawdd ei hepgor.

Iaith

Credwn fod gwaith canmoladwy ac arwrol wedi ei wneud, ond bellach mae angen newid y meddylfryd am sut i hybu’r Gymraeg.  Trawsnewidiwyd ein hysgolion o fod yn elynion i’r Gymraeg fel yr oeddent ers talwm.  Erbyn hyn ‘does yna ddim rheswm na fedr unrhyw un a fu drwy’r ysgolion yn y ddwy sir siarad Cymraeg.  Eto i gyd mae llawer yn dewis peidio â siarad Cymraeg.

Tra’n cydnabod fod Cynghorau Môn a Gwynedd yn cefnogi’r iaith mewn sawl ffordd ymarferol, pryderwn fod toriadau i’w cyllid wedi arwain at chwilio am arbedion mewn meysydd sy’n cynnal y Gymraeg.  Enghreifftiau yw’r dadlau ynglŷn â’r Canolfannau Trochi i newydd-ddyfodiaid, a’r brwydrau parhaol i gadw ysgolion gwledig ar agor – ysgolion sy’n aml yn bodoli mewn cymunedau sy’n dal yn naturiol Gymraeg ei hiaith.

Mae’r Gymraeg dan fwy o warchae nag erioed yng Ngwynedd a Môn, gan fod nifer o ffactorau yn cael effaith ar yr un pryd, ac ar raddfa ehangach nag a welwyd o’r blaen.  Diau fod yna resymau eraill, ond gallwn nodi mewnlifiad lluosog gan bobl di-Gymraeg, anallu nifer cynyddol o bobl leol i gael tai yn eu cymunedau, allfudo gan bobl ifanc i ardaloedd dinesig, a thuedd amlwg gan rai sy’n medru’r Gymraeg i beidio â’i defnyddio os nad oes rhaid.

Ers sawl cenhedlaeth bellach, gall person fyw’n gyfangwbl drwy gyfrwng y Saesneg yn unig yng Ngwynedd a Môn.  Gall anwybyddu’r ffaith fod yna iaith frodorol yma.  Dyna yw dewis llawer.  Mae hyn yn ganlyniad anochel i ddiflaniad y Cymry uniaith Gymraeg.   Fedr person sy’n siarad Cymraeg ddim byw drwy gyfrwng y Gymraeg – o leiaf, nid heb ymdrech fawr o ran ewyllys a bod mewn peryg o gael dirmyg.  Gellid dadlau, hyd yn gymharol ddiweddar, fod hyn yn anffodus, ond gan fod cynifer o bobl yn siarad Cymraeg yng Ngwynedd a Môn ‘roedd modd anwybyddu’r ffaith.  ‘Doedd yna ddim bygythiad go iawn i’r Gymraeg, a oedd yn iaith y mwyafrif o bobl heblaw am ambell i ardal.  Nid felly y mae hi erbyn hyn.

Cyfran gymharol fechan o oedolion sy’n ddigon penderfynol i ddysgu’r iaith yn rhugl, ac wrth reswm rhaid sylweddoli fod yna nifer sy’n dysgu rhywfaint ac yn dal yn gefnogol, ac yn falch fod eu plant yn dysgu.  Dylem barchu a chydnabod pawb sy’n ymdrechu.

Rhaid bod yn gadarn er mwyn gwrthsefyll pwysau gan ddarpar gyflogwyr i ddiraddio’r iaith a’i phwysigrwydd – cofiwn am ymdrech lwyddiannus cwmni Horizon i newid y cymal yn y fersiwn wreiddiol o’r Cynllun Datblygu Lleol oedd yn dweud y dylid “gwrthod cynigion oherwydd eu maint, graddfa neu leoliad yn achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned”.

Datblygiad Integredig

Mae strategaeth sy’n seiliedig ar adeiladu o’r gymuned i fyny yn gweithio.  Credwn ei bod yn hen bryd i ddeiliaid cyllid (preifat, masnachol a chyhoeddus) gefnogi y syniad yn llawer mwy nag a wnaed hyd yma.  Eglurwyd pam fod sawl deilliant yn bosib.

Un o’r pethau sy’n hollol greiddiol er mwyn i strategaeth gymunedol lwyddo go iawn ar lefel eang yw fod yna ddealltwriaeth na fedrwn ni ynysu pob gweithgaredd a menter ar ei ben ei hun.  Mae un peth yn cyffwrdd â sawl un arall.  Mae angen cydnabod fod llwyddiant menter gymunedol yn creu elw i fusnesau eraill, yn gwella bywydau pobl a felly yn lleihau y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, yn gwella a gwarchod y tirlun, yn gwella’r stryd fawr ac yn y blaen.  Dylid defnyddio mesurau o lwyddiant sy’n cynnwys pethau tu hwnt i’r effaith economaidd gul – ac o wneud hynny’n deg a chywir mae’n bosib y gwelir fod yna, yn wir, welliant economaidd hefyd, ond i weld hyn rhaid ystyried economi cymuned yn ei chyfanrwydd.

I ddefnyddio terminoleg cyfoes, rhaid peidio â meddwl yn nhermau ‘silo’.

Credwn fod yna waith pwysig i’w wneud i ddadansoddi sut mae mentrau cymunedol yn llwyddo – ac os nad ydyn nhw bob tro, edrych am y rhesymau.  Byddai cefnogaeth gyhoeddus yn hwyluso gwaith fel hyn.  A rhaid derbyn na fydd pob menter yn llwyddo – fel yn yr economi arferol – ond ddylai hynny ddim fod yn rheswm dros gollfarnu’r meddylfryd cymunedol.

Mae’n bosib mai dechrau ar raddfa fach fydd cydweithio cymunedol mewn sawl ardal a thyfu’n naturiol fesul tipyn.  O dderbyn cefnogaeth ac o gael pobl ymroddedig yn rhan o’r mentrau, yna gallwn fod yn hyderus am y dyfodol yn ein cymunedau.

Gwytnwch nid dibyniaeth.

Y dorth nid y briwsion.

Hyder nid anobaith.

Sail y cyfan yw cymuned.

 

ENGHRAIFFT O WEITHREDU MEWN CYMUNED – CWMNI BRO FFESTINIOG

Blaenau Ffestiniog oedd yr ail dref fwyaf yng ngogledd Cymru yn 1900 gyda phoblogaeth o tua 13,000 ond wrth i’r diwydiant llechi edwino mwy na hanerwyd y boblogaeth erbyn y flwyddyn 2000. Erbyn heddiw mae Bro Ffestiniog yn un o’r ardaloedd tlotaf yn economaidd ym Mhrydain. Er y dad-ddiwydiannu mae’r etifeddiaeth ddiwylliannol yn goroesi i raddau helaeth ac yn  gynsail i’r model o ddatblygu cymunedol a arloesir yn yr ardal heddiw.

Yn ôl pob tebyg mae mwy o fentrau cymdeithasol y pen yn yr ardal nag yn unrhyw le arall yng Nghymru. Mae gweithgareddau amrywiol y mentrau hyn yn cynnwys rhedeg gwestai, siopau, bwytai, canolfan dwristiaeth, canolfan hamdden, canolfan gelf a chrefft, beicio mynydd, manwerthu, garddwriaeth, darparu rhandiroedd, gwaith addysgol a diwylliannol, opera, gwaith amgylcheddol, hybu arbed ynni, lleihau gwastraff bwyd, ailgylchu, glanhau afonydd, gwaith gydag oedolion gydag anghenion ychwanegol, gwaith gydag ieuenctid yn cynnwys ynglŷn â digartrefedd a dysgu sgiliau amgylcheddol a chyfryngol.

Daeth 15 o’r mentrau cymdeithasol at ei gilydd i ffurfio rhwydwaith dan faner Cwmni Bro Ffestiniog, sy’n  gwmni cymunedol cyfyngedig trwy warant. Mae’n gweithredu yng nghymunedau Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd a Phenrhyndeudraeth a’r pentrefi cyfagos sydd, rhyngddynt, gyda phoblogaeth o tua 8,000. Amcanion y Cwmni yw hybu cydweithrediad rhwng y mentrau, meithrin mentrau cymdeithasol newydd a hefyd gweithio gyda busnesau preifat bach sydd wedi’u hangori yn y gymuned. Hyn i gyd er mwyn datblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr ardal.

Rhyngddynt mae aelodau’r Cwmni Bro yn cyflogi tua 150 o bobl. Dengys dadansoddiad diweddar o effeithiau economaidd y mentrau bod canran uchel o’u hincwm yn dod o fasnachu. Ymhellach, dangoswyd bod yr incwm, i raddau helaeth, yn aros a chylchdroi o fewn yr ardal. Am bob punt a dderbynnir fel grantiau neu fenthyciadau mae 98 ceiniog yn cael eu gwario’n lleol, yn bennaf ar gyflogau. Cedwir 53% o’r 1.5 miliwn o bunnoedd a werir ar gyflogau yn lleol. Mae bron hanner y gwariant ar nwyddau a gwasanaethau yn lleol ac felly’n ailgylchu arian yn yr ardal.

Yn mis Awst 2018 cychwynwyd menter newydd, BROcast Ffestiniog, sef gwasanaeth darlledu cymunedol digidol, sy’n hyrwyddo cyfathrebu rhwng mentrau cymunedol yr  ardal a’r gymuned ac oddi mewn i’r gymuned. (Gweler facebook.com/BROcastFfestiniog). Maes o law, rhagwelir y bydd cymunedau eraill yn efelychu’r datblygiad hwn ac yn sefydlu mentrau BROcast ar hyd a lled Cymru gan ail adrodd, ar ffurf cyfoes, ledaeniad y papurau bro mewn cyfnod cynharach.

Fwyfwy mae Cwmni Bro Ffestiniog yn rhwydweithio gyda chymunedau eraill a chafwyd cefnogaeth Llywodraeth Cymru, drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol, i arbrofi ar ddatblygu agweddau ar yr economi sylfaenol drwy gydweithrediad gyda chymunedau dyffrynnoedd Nantlle ac Ogwen.  Hefyd, mae Cwmni Bro Ffestiniog yn cydweithio gydag Ysgol Fusnes Prifysgol Manceinion, Prifysgol Aberystwyth a Chyngor Gwynedd ar waith ymchwil i natur yr economi sylfaenol ym Mro Ffestiniog. Bydd y gwaith hwn yn sail i broses gyfranogol o lunio cynllun datblygu cymunedol ar gyfer yr ardal. Bydd ffrwyth yr ymchwil hefyd yn berthnasol yn ehangach fel sail datblygu’r economi sylfaenol ar draws ein cymunedau.

I grynhoi, credir bod y model integredig a chyfannol o ddatblygu cymunedol y mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ei arloesi yn cynnig patrwm y gellir ei efelychu a’i addasu gan gymunedau eraill. Ymhellach, drwy asio’r model gydag egwyddorion ac ymarfer yr economi sylfaenol, ar sail ymchwil i natur y gymuned, cynigir ffordd integredig ar gyfer datblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cymunedau ar draws Cymru a thu hwnt.

 

MODEL, MANIFFESTO A MUDIAD CYMUNEDOL

Amlinellir yn y pwyntiau isod fodel, maniffesto a mudiad cymunedol ar gyfer Cymru.

  1. Mae model Cwmni Bro Ffestiniog o ddatblygu cymunedol integredig yn cynnig patrwm y gellir ei efelychu a’i addasu gan gymunedau eraill yng Nghymru a thu hwnt. Eisoes mae hyn yn dechrau digwydd. Er enghraifft, mae cynlluniau ar y gweill i rwydweithio mentrau cymdeithasol ar Ynys Môn, dan y teitl Bro Môn.
  2. Trwy fabwysiadu’r model o ddatblygu cymunedol ac asio’r model gydag egwyddorion ac ymarfer yr economi sylfaenol credir bod potensial i drawsnewid economi a chymunedau Cymru. Economi sylfaenol a chymunedau sylfaenol yw sail ein dyfodol. Mae’r ddogfen SAIL hon yn cynnig strategaeth a maniffesto economaidd a chymunedol ar gyfer dyfodol amgen i Wynedd a Môn. Y bwriad yw cydweithio gyda chymunedau eraill i ehangu ar y maniffesto ar gyfer Cymru gyfan. Bydd y maniffesto yn cynnwys gwahanol adrannau ar y camau y gallesid eu cymeryd gan unigolion, cymunedau, cynghorau cymuned a sirol, asiantaethau datblygu a Llywodraethau Cymru, y Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd.
  3. Mae model Cwmni Bro Ffestiniog o ddatblygu cymunedol integredig yn seiliedig ar egwyddorion cydweithrediad yn hytrach na chystadleuaeth, ar gyd-gynhyrchu, ar greu elw a gwerth cymdeithasol, ar ddatblygiad integredig yn hytrach na’r seilos y mae’r wladwriaeth yn gaeth iddo, ar hwyluso yn hytrach na rheoli, ar gynnal a datblygu cymuned a diwylliant, ar ryddhau yn hytrach na rheoli ein pobl.
  4. Mae traddodiad o fenter cymunedol yn rhedeg trwy hanes Cymru ac mae cyfle i adeiladu ar yr etifeddiaeth hon. Yn ôl pob tebyg, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg medrai canran uwch o bobl yng Nghymru ddarllen ac ysgrifennu nag mewn unrhyw wlad arall. Cyflawnwyd hyn drwy fenter cymunedol blaengar yr ysgolion cylchynol. Codwyd addoldai ar hyd a lled y wlad, neuaddau gweithwyr, cymdeithasau adeiladu, mentrau cydweithredol amaethyddol, clybiau chwaraeon, siopau cydweithredol, undebau credyd, mudiadau a phleidiau gwleidyddol, undebau llafur, cyrff addysgol a diwylliannol, gwasanaethau iechyd cymunedol a myrdd o fentrau elusennol amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol hyd at y dydd heddiw. Y sialens yw addasu’r traddodiad cyfoethog hwn o fenter cymdeithasol ar gyfer creu ein dyfodol.
  5. Mae’n traddodiad a’n hanes o fentergarwch cymunedol yn cynnig gwersi sylfaenol ar gyfer ein gwleidyddiaeth heddiw. Er enghraifft, roedd gweledigaeth ‘The Miners Next Step’, a gyhoeddwyd ym 1912, yn un o berchnogaeth a rheolaeth ddemocrataidd gweithwyr a chymuned ar y diwydiant glo. Math o gymunedoli oedd hyn yn hytrach na’r gwladoli biwrocrataidd a gafwyd o du’r wladwriaeth. I’r chwith gwleidyddol heddiw mae’r cwestiynau ynglŷn â natur democratiaeth, a’r balans rhwng rôl y wladwriaeth a rôl y gymuned i’r dyfodol yn allweddol.
  6. Mae’n traddodiad a’n hanes cymunedol hefyd yn cynnig gwersi sylfaenol ar gyfer addysg heddiw. Wrth i’r wladwriaeth wasanaethu anghenion cyfalaf yn gynyddol, collwyd llawer o weledigaeth a thraddodiad addysg y gweithwyr ac addysg gymunedol. Heddiw, rmae angen addysg arnom ar gyfer deall a datblygu cymuned ar sail egwyddorion datblygiad cymunedol ac wedi’i sylfaenu ar athroniaeth a gweledigaeth ddilechdidol, integredig a chyfannol. Persbectif ecosystemau sydd ei angen ar gyfer cymuned yn hytrach na’r rhaniadaeth sy’n nodweddu addysg ar gyfer cyfalaf. Yng ngeiriau’r bardd Waldo Williams:

“Rhag y rhemp sydd i law’r dadelfennwr

A gyll, rhwng ei fysedd, fyd.”

  1. Ar sail ein profiad gyda BROcast Ffestiniog gwelir bod potensial a chyfle i ddatblygu darlledu cymunedol digidol ar hyd a lled Cymru gan rwydweithio ar draws Cymru ac yn rhyngwladol.
  2. Yn nannedd argyfwng amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cyfalafiaeth trawswladol mae cymunedau ar hyd a lled y byd yn ymrymuso ac yn datblygu atebion amgen ar gyfer trawsnewid y drefn, o’r gwaelod i fyny. Rydym yn rhannu gweledigaeth gyda chymunedau o Califfornia i Cwrdistan.
  3. Eisoes mae sawl cymuned ar draws Cymru wedi dechrau rhwydweithio a chydweithio ac y mae Mudiad Cymunedol ar gyfer Cymru yn dechrau egino. Mae profiad cymunedau yn Sweden yn cynnig patrwm y gellir ei efelychu a’i addasu ar gyfer Cymru. Yn Sweden mae cymunedau ar hyd a lled y wlad wedi cydweithio i greu mudiad cymunedol gyda’i Senedd Cenedlaethol y Cymunedau sy’n sicrhau llais a phwerdy cymunedol grymus.
  4. Law yn llaw ag hyrwyddo model, maniffesto a mudiad cymunedol mae angen ystyried nid yn unig yr amcan ond hefyd y modd i drawsnewid y drefn. Ar draws y byd mae mudiadau blaengar wedi mabwysiadu egwyddor a dull di-drais o weithredu ac mae hyn, fel yn achos ymgyrchu dros y Gymraeg, wedi profi’n dra effeithiol.

Er bod gan gyfalafiaeth rymoedd enfawr mae gennym fel cymunedau arf cryfach nag hyd yn oed Plwtoniwm y drefn. Rydym yn rhannu cariad at gyd-ddyn, at degwch a chydraddoldeb ac at ryddid a gweledigaeth am gymuned wedi’i thrawsnewid yn lleol, yn genedlaethol ac yn gydwladol, ynghyd â dyfodol amgen i’n planed.

 

FFYNONELLAU SYNIADAU BLAENGAR

Nodwn rai ffynonellau o wybodaeth a syniadau blaengar a pherthnasol isod. Mae sylwadau pellach yn Atodiad A.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae’r Ddeddf yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

 

Green New Deal

Cynllun uchelgeisiol i drawsnewid economi’r Unol Daleithau i fod yn economi werdd.

 

Committee on Climate Change

Corff yn cynnig cyngor i Lywodraeth y DU ar newid hinsawdd.

 

Institute for Advanced Sustainability Studies

Sefydliad sy’n hyrwyddo cymdeithas gynaliadwy.

 

The Great Transition

Dyma’r dyfyniad ar ddechrau’r adroddiad:  “Anyone who believes exponential growth can go on forever in a finite world is either a madman or an economist.” –  Kenneth Boulding, economist.

 

Foundational Economy a Manifesto for the Foundational Economy

Blaenoriaethu unigolion, teuluoedd a chymunedau yn hytrach na chyfalafiaeth.  Gwaith yr Athro Karel Williams a’i dîm o Brifysgol Manceinion sy’n cydweithio efo SAIL.

 

Transition Network

Rhwydweithio o fewn cymunedau er lles y gymuned.

 

Wales and the Circular Economy

Ymateb yw y syniad o Economi Gylch i’r sylweddoliad fod pendraw’r broses o ddefnyddio adnoddau naturiol ar ein gwarthaf. 

 

Gwaith i Adfywio Iaith

Dogfen gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnwys sawl awgrym ar weithredu ar lefel cymuned.

 

Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau

Y nod yw rhoi cyfle i bobl ddatblygu’r cryfderau a’r talentau sydd i’w cael yn eu cymuned er mwyn gwneud y gymuned honno’n lle gwell i fyw.

 

Cwmni Bro Ffestiniog

Rhwydwaith o bedwar ar ddeg o fentrau cymdeithasol llwyddiannus sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio dan faner un cwmni bro.

 

Mentrau Bro’r Eifl

“Mae`r llyfr (“Cryfder ar y Cyd”) yn cyfeirio at yr angen am gydweithio yn llorweddol – peth sydd wrth wraidd i`r `economi sylfaenol`.  Yn ein strategaeth ni, mae angen i ni gydweithio `yn fertigol` yn ogystal, gyda`r sectorau cyhoeddus a phreifat – ond gydag arweiniad o fewn y gymuned! “ – Dr Carl Clowes.

 

New Lucas Plan, Shadow Defence Diversification Agency, Arms to Renewables a Arms Industry in the Clyde and Renewable Energy Options

Ymgais yw’r rhain i gynnig gwaith amgen i weithwyr yn y diwydiant arfau.  Gallwn ystyried ar gyfer ein dibenion ni y gall y syniadau hyn fod yn berthnasol i weithwyr y diwydiant niwclear yn ogystal.

 

Re-energising Wales

Adroddiad hynod o berthnasol i gymunedau ein hardaloedd ni gan y Sefydliad Materion Cymreig.

 

Zero Carbon Britain

Adroddiadau swmpus a thrylwyr gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen.

 

Energiewende

Cafodd ynni gwyrdd gefnogaeth a buddsoddiad helaeth ers blynyddoedd yn yr Almaen, lle mae’r mudiad Gwyrdd yn gryf.

 

Maniffesto Môn

Ymdrech i edrych tu allan i bocs y Wylfa a sicrhau cyflogaeth amgen yn seiliedig ar adnoddau brodorol yr ynys.  Gwaith Dr Carl Clowes yn bennaf, cyhoeddwyd gan PAWB.

 

Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd

“Mae’r ‘cynllun gwyrdd’ hwn yn cynnig syniadau am ddatblygu cynllun sy’n bwriadu dwyn ynghyd yr adnoddau naturiol, dynol a chymunedol sydd ar gael yn barod ym mhob cymuned ledled y cymoedd.”

 

“The Tragedy of Growth”

Adroddiad gan Positive Money sy’n egluro pam fod yn rhaid rhoi’r gorau i dŵf GDP er mwyn gwella lles ac osgoi trychineb amgylcheddol.

GOFYNION

Mae gennym i gyd rannau i’w chwarae er mwyn datblygu rhai o’r syniadau a drafodwyd – ac i feddwl am rai eraill.  Credwn fod modd i ni ysgrifennu’r gofynion o dan y penawdau isod yn dilyn trafodaethau efo gwahanol bobl yn y gwahanol gategorïau, ac yn naturiol bydd rhai pobl yn perthyn i fwy nag un ohonynt.  Felly gwahoddiad sydd yma i awgrymu be fedrwch CHI ei gynnig!

Gofynion ar Unigolon

Gofynion ar Gymunedau

Gofynion ar Asiantaethau Cymunedol

Gofynion ar Gynghorau Cymuned a Chynghorau Tref

Gofynion ar Gynghorau Sir

Gofynion ar Lywodraeth Cymru

Gofynion ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol

Gofynion ar Bleidiau Gwleidyddol ac Undebau Llafur

 

ATODIAD A

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol  Mae’r Ddeddf yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd yn helpu’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf i feddwl am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, ceisio atal problemau a dilyn dull gweithredu cyson. Bydd hyn yn ein helpu ni i greu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Er mwyn gwneud yn siwr ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn pennu saith o nodau llesiant, sef:

Cymru lewyrchus Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Cymru gydnerth Cymru gydnerth Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

Cymru iachach Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Cymru sy’n fwy cyfartal Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).

Cymru o gymunedau cydlynus Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

 

“Green New Deal” yn UDA[79] [80] [81]sy’n cael ei gefnogi gan Alexandra Ocasio-Cortez.  Rhaglen uchelgeisiol i fynd am ddyfodol carbon zero tra’n trawsnewid yr economi a chynnig mwy o degwch i weithwyr a’r difreintiedig.  Mae’n arbennig o berthnasol fod carfan ddylanwadol yn y wlad fwyaf cyfalafol, o dan Arlywydd sy’n diystyru problemau amgylcheddol, yn gwthio agenda gwyrdd.

 

“Committee on Climate Change [82]  Corff statudol annibynnol sy’n cynnig cyngor i Lywodraeth y DU ar newid hinsawdd.  Mae ganddyn nhw nifer o adroddiadau perthnasol all fod o fudd wrth gynllunio economi wydn.

 

“Institute for Advanced Sustainability Studies” [83] yn Potsdam, yr Almaen.  Pwrpas y sefydliad yw hyrwyddo cymdeithas gynaliadwy.

The Institute for Advanced Sustainability Studies (IASS) conducts research with the goal of identifying, advancing, and guiding transformation processes towards sustainable societies. Its research practice is transdisciplinary, transformative, and co-creative. The institute cooperates with partners in academia, political institutions, administrations, civil society, and the business community to understand sustainability challenges and generate potential solutions.

 

“The Great Transition gan y  New Economics Foundation.[84]  Dyma’r dyfyniad ar ddechrau’r adroddiad:  “Anyone who believes exponential growth can go on forever in a finite world is either a madman or an economist.” –  Kenneth Boulding, economist.

Awgrymir y gellid defnyddio llawer o’r syniadau yn yr adroddiad sy’n berthnasol i ni yma.  Er enghraifft:  “we argue for an expanded concept of ‘subsidiarity’ – the idea that decisions are best taken at as local a scale as possible.” (tudalen 6).

 

“Foundational Economy[85] (cynnwys dolen i gyflwyniad i Lywodraeth Cymru)a “Manifesto for the Foundational Economy[86]  Mae’r weledigaeth wedi ei chrynhoi fel hyn:

  • The foundational economy is about collective consumption through networks and branches which are the infrastructure of civilised everyday life. The foundational includes the material infrastructure of pipes and cables which connect households plus providential services like health and care which citizens rely on; outside the foundational, there is a mundane overlooked economy of haircuts and takeaways.
  • The foundational economy is about universal basic services which are a citizen entitlement and it is therefore about politics as much as economics. From a foundational view point, the distinctive role of public policy is not to boost private consumption by delivering economic growth but to ensure the quantity and quality of foundational services.

Felly mae’n blaenoriaethu unigolion, teuluoedd a chymunedau yn hytrach na chyfalafiaeth.  Cael y gorau, felly, o’r hyn sydd gennym yn lle eu torri’n ddidrugaredd.

 

Transition Network [87] Rhwydweithio o fewn cymunedau er lles y gymuned, gan ddysgu gan enghreifftiau sy wedi gweithio mewn llefydd eraill.  Mae’n symudiad sy bellach wedi cydio mewn dros 50 o wledydd.  Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar y wefan.

“Transition is a movement that has been growing since 2005.  It is about communities stepping up to address the big challenges they face by starting local.  By coming together, they are able to crowd-source solutions. They seek to nurture a caring culture, one focused on supporting each other, both as groups or as wider communities.

In practice, they are reclaiming the economysparking entrepreneurshipreimagining workreskilling themselves and weaving webs of connection and support.  It’s an approach that has spread now to over 50 countries, in thousands of groups: in towns, villages, cities, Universities, schools.” 

Enghraifft o un dref sy’n gweithredu fel hyn yw Totnes yn Nyfnaint.[88]  Trafodwn ymdrechion yn ein hardaloedd ni yn fwy manwl eto, megis Cwmni Bro Ffestiniog ac Antur Ogwen.

“Wales and the Circular Economy [89]  Papur gan yr Ellen MacArthur Foundation ar gyfer y Waste & Resources Action Programme (WRAP) a Llywodraeth Cymru.  Ymateb yw y syniad o Economi Gylch i’r sylweddoliad fod pendraw’r broses o ddefnyddio adnoddau naturiol ar ein gwarthaf.  Felly nid yn unig mae modd gwarchod ein hadnoddau drwy ddilyn yr egwyddorion a gymeradwyir, ond gall hefyd adfywio economi.

“A circular economy denotes an industrial economy that is restorative by design, and which mirrors nature in actively enhancing and optimizing the systems through which it operates. Capital assets (for example clean rivers or diverse ecosystems) are maintained and rebuilt, and the waste of one process is eliminated as it becomes the ‘food’ for another.”

 

“Gwaith i Adfywio Iaith” [90] gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.  Argymhellir, ymhlith pethau eraill, y canlynol: sefydlu banciau lleol; rhoi mwy o rym i gymunedau dros ddatblygu economaidd; datganoli cannoedd o swyddi allan o Gaerdydd; sefydlu Cwmni Ynni Cenedlaethol.  O safbwynt parhad yr iaith, noda’r ddogfen:

“Os edrychwn ar Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, mae 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 wedi gadael yr ardaloedd hynny, sy’n cyfateb i dros 55% o’r holl allfudiad ar gyfer pob oedran.”

“Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau” [91]  Dyma beth mae’r Ymddiriedolaeth am ei chyflawni;

“Nod yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yw rhoi cyfle i bobl ddatblygu’r cryfderau a’r talentau sydd i’w cael yn eu cymuned er mwyn gwneud y gymuned honno’n lle gwell i fyw. Y bwriad yw gwneud hynny drwy gynnig arian a chefnogaeth i gymunedau, ynghyd â chyfleoedd i rannu a dysgu, a chyfle i ddylanwadu ar y cyrff hynny sydd yn gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio cymunedau.”

“Cwmni Bro Ffestiniog[92]  Mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ddatblygiad hollol arloesol yng Nghymru; sef rhwydwaith o bedwar ar ddeg o fentrau cymdeithasol llwyddiannus sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio dan faner un cwmni bro.

Mae’r Cwmni Bro yn gweithredu yng nghymunedau Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd a Phenrhyndeudraeth a’r pentrefi cyfagos sydd, rhyngddynt, gyda phoblogaeth o tua 8,000. Roedd Blaenau Ffestiniog yr ail dref fwyaf yng ngogledd Cymru yn 1900 gyda phoblogaeth o tua 13,000 ond wrth i’r diwydiant llechi edwino mwy na hanerwyd y boblogaeth erbyn y flwyddyn 2000. Erbyn heddiw mae Bro Ffestiniog yn un o’r ardaloedd tlotaf yn economaidd ym Mhrydain. Er y dad-ddiwydiannu mae’r etifeddiaeth ddiwylliannol yn goroesi i raddau helaeth ac yn gynsail i’r model cyfannol ac integredig o ddatblygu cymunedol a arloesir yn yr ardal heddiw.

Amcanion y Cwmni yw hybu cydweithrediad rhwng y mentrau, meithrin mentrau cymdeithasol newydd a hefyd gweithio gyda busnesau preifat bach sydd wedi’u hangori yn y gymuned. Hyn i gyd er mwyn datblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr ardal.

“Mentrau Bro`r Eifl”, lle sefydlwyd Antur Aelhaearn (45 oed eleni)[93]  fel y Cydweithfa Gymunedol gyntaf yn y DU yn arwyddocaol hefyd oherwydd ysgogwyd sawl menter arall yn ei sgil. Mae`r llyfr `Cryfder ar y Cyd`[94] a gyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch yn 2012 yn croniclo hanes pump o fentrau yn y fro – Antur Aelhaearn ynghyd â Tafarn y Fic, Siop Pen-y-Groes, Llithfaen, Garej Clynnog a Nant Gwrtheyrn.

Dyma ddywed Dr Carl Clowes, fu’n arloesi ac yn sbarduno Mentrau Bro’r Eifl, am yr adeg honno ac am be sydd ei angen rwan:

“Mae`r llyfr (“Cryfder ar y Cyd”) yn cyfeirio at yr angen am gydweithio yn llorweddol – peth sydd wrth wraidd yr `economi sylfaenol`.  Yn ein strategaeth ni, mae angen i ni gydweithio `yn fertigol` yn ogystal, gyda`r sectorau cyhoeddus a phreifat – ond gydag arweiniad oddi fewn i`r gymuned!  Mae’na gyndynrwydd yn gyffredinol i gydweithio ar y lefel yma ond, o gadw rheolaeth yn lleol, mi all fod o fantais gyda`r adnoddau a phrofiad a ddaw yn ei sgil.

“Mae`r angen am `Rhaglen Weithredol`, dyweder 5-10 mlynedd, yn holl bwysig gan fynegi pwy ddylai fod yn arwain ar y gwahanol elfennau; ynghlwm wrth hynny, byddai’n ychwanegu at hygrededd y ddogfen pe byddai modd cynnwys ‘costau mynegol’ ar gyfer yr elfennau hyn.   Mae Strategaeth Llŷn[95] yn cynnig arweiniad pwysig ar hyn.

“Mae gwaith W.F. Mackey[96] [97]o Ganada yn berthnasol; mae o`n arbenigwr iaith ac, yn ei eiriau fo:  ‘Mae iaith yn ffynnu mewn system gymdeithasol, gellid ei alw yn eco-system, lle mae’r elfennau oll, cartref, gwaith, ysgol a chymuned yn rhyngweithio; mae unrhyw bolisi iaith nad yw`n cymryd y ffactorau yma i ystyriaeth wedi`i dynghedu i fethant’.

“Hoffwn weld asedau`r ardal – adnoddau dynol, hyfforddiant, ffisegol, diwylliannol ac ariannol – yn cael sylw blaenllaw.  O werthu`r achos i`r `byd`, mae`n codi hyder y gymuned i weld gymaint sydd ganddyn nhw i`w gynnig – (asset-based approach) – h.y. mae`r pot yn hanner llawn!

 

“Cyflwyno ‘ technoleg canolraddol’ Schumacher[98] fel sail i lawer o ddatblygiadau posibl yn y gogledd-orllewin – gymaint yn fwy cynaliadwy na`r cynlluniau gorffwyll sydd wedi ein camarwain dros y degawdau diwethaf”.

 

“New Lucas Plan” [99], “Shadow Defence Diversification Agency” [100], “Arms to Renewables” [101] a “Arms Industry in the Clyde and Renewable Energy Options” [102]  Ymgais yw’r rhain i gynnig gwaith amgen i weithwyr yn y diwydiant arfau.  Gallwn ystyried ar gyfer ein dibenion ni y gall y syniadau hyn fod yn berthnasol i weithwyr y diwydiant niwclear yn ogystal.

“Arms industry personnel are highly skilled science, engineering and technology workers. If the UK government transferred support from military industry to socially-useful enterprises, such as renewables, there could be good sustainable jobs and a more peaceful world.”

 

“Re-energising Wales [103] gan y Sefydliad Materion Cymreig.  Adroddiad hynod o berthnasol i gymunedau ein hardaloedd ni.

“Wales has set ambitious targets for renewable electricity generation, community and local ownership. The Welsh Government has shown political will and put these targets and policies in place because they recognise the value a thriving renewables sector can bring to communities, businesses and the public sector in Wales.”

 

“Zero Carbon Britain” [104] gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen.  Mae rhain yn adroddiadau swmpus a thrylwyr gan rai fu’n braenaru’r tir ers blynyddoedd.  Gallwn ddysgu llawer am dechnoleg sy’n berthnasol i’n cymunedau.

“Our integrated approach explores all aspects of climate solutions, from renewable energy and energy efficiency to diets and land-use, looking at how these can work together to help us build a zero carbon world.”

 

“Energiewende [105]  Cafodd ynni gwyrdd gefnogaeth a buddsoddiad helaeth ers blynyddoedd yn yr Almaen, lle mae’r mudiad Gwyrdd yn gryf.

“Germany has decided to switch its entire energy supply to renewables and to become increasingly energy efficient. In this way, Germany is playing a major role in climate protection. The Energiewende is our answer to the question of how we can make the energy supply secure, affordable and sustainable. This unique opportunity for Germany as a location for business and investment will open up new business opportunities, foster innovation, create jobs, boost growth and make us less dependent on oil and gas imports.”

“Maniffesto Mon”[106] o waith Dr Carl Clowes yn bennaf, a gyhoeddwyd gan PAWB (Pobl Atal Wylfa B) yn 2012.  Mae’n  ymdrech i edrych tu allan i bocs y Wylfa a sicrhau cyflogaeth amgen yn seiliedig ar adnoddau brodorol yr ynys.  Rhybuddiodd y ddogfen fod yr achos economaidd dros niwclear yn fregus – a hynny flynyddoedd yn ôl bellach.  Er i’r ddogfen gael ei gyrru at Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad a Chynghorwyr Sir dewiswyd ei hanwybyddu gan mwyaf.

“Mae`r hinsawdd ar gyfer buddsoddi yn y diwydiant niwclear wedi newid ac, yn arbennig, ers y trychineb yn Fukushima a, fel canlyniad, prin iawn yw`r tebygolrwydd o fuddsoddiad arall mewn gorsaf newydd yn yr Wylfa. Bydd`na ymgyrchu ond prin iawn yw`r gobeithion a mae`n rhaid felly ystyried posibiliada` eraill.”

“Yn yr unig arolwg a wnaed ar y pwnc a hynny cyn trychineb Fukushima, wnaeth ymchwilwyr o`r Adran Wyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor ddarganfod mai Ynni Adnewyddadwy oedd yn cael cefnogaeth 74% o boblogaeth yr ynys a`r cyffinia` o`i gymharu â 25% ar gyfer ynni niwclear.”

“Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd”[107] dogfen ymgynghorol gan Leanne Wood o 2011, gyda phwyslais ar y cymunedol a’r cynaliadwy.  ‘Does dim rhaid cefnogi un blaid wleidyddol yn fwy na’r llall i weld fod syniadaeth y dyfyniad yma yn un y gallwn ei gymeradwyo yn ein hardaloedd ni:

“Mae’r ‘cynllun gwyrdd’ hwn yn cynnig syniadau am ddatblygu cynllun sy’n bwriadu dwyn ynghyd yr adnoddau naturiol, dynol a chymunedol sydd ar gael yn barod ym mhob cymuned ledled y cymoedd. Wrth gydgyfrannu’n holl sgiliau ac adnoddau, mae gennym y potensial i greu cyfleoedd swyddi a hyfforddiant, cartrefi gwell, mwy o opsiynau teithio, ynni a bwyd rhatach yn ogystal â lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr, a thrwy hynny helpu cyfraniad Cymru tuag at les y blaned yn y dyfodol.”

“The Tragedy of Growth”[108] Adroddiad gan Positive Money sy’n egluro pam fod yn rhaid rhoi’r gorau i dŵf GDP er mwyn gwella lles ac osgoi trychineb amgylcheddol.  Mae’n egluro fod diffyg tŵf dan y drefn bresennol yn arwain at ddiweithdra ac anghyfartaledd.  Cynigir ffyrdd gwahanol i drafod cyllid i wrthweithio hyn.  Gwelir incwm sylfaenol i bawb a banciau cyhoeddus yn arfau pwysig i’w defnyddio.  Dylid rhoi’r gorau i GDP a defnyddio mesuryddion eraill, megis hyd bywyd, allyriadau carbon ac addysg.  Bydd angen newid sylfaenol mewn polisïau i gyflawni hyn.

[1] https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Sustainable-Development/Sustainable-Development-Indicators/gva-by-measure-welsheconomicregion-year

[2] http://www.childreninwales.org.uk/news/news-archive/child-poverty-becoming-new-normal-many-parts-wales-150519-wenis/

[3] https://www.iwa.wales/click/2015/04/the-false-promises-of-fdi/

[4] https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-48572440

[5] https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-49733291

[6] https://www.offshore-technology.com/comment/ineos-future-challenges/

[7] https://northwaleseab.co.uk/cy/adnoddau/cais-twf-gogledd-cymru

[8] https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/fact-wales-poorest-communities-still-8022249

[9] https://theconversation.com/is-theresa-mays-1-6-billion-fund-for-english-towns-enough-to-rebalance-britains-skewed-economy-110554?utm_source=twitter&utm_medium=twitterbutton

[10] https://northernpowerhouse.gov.uk/about-us/

[11] https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2019-08/Drafft%20y%20Fframwaith%20Datblygu%20Cenedlaethol.pdf

[12] http://www.morlaisenergy.com/cy/

[13] https://llyw.cymru/diwydiant-ynnir-llanw-yn-y-gogledd-i-gael-o-fuddsoddiad-gan-yr-ue

[14] https://www.ynysmon.gov.uk/cy/newyddion/newyddion/cymdeithas-elusennol-newydd-i-reoli-cronfa-waddol

[15] https://www.cell.com/one-earth/fulltext/S2590-3322(19)30225-8?_returnURL=https%3A%2F%2Flinkinghub.elsevier.com%2Fretrieve%2Fpii%2FS2590332219302258%3Fshowall%3Dtrue

[16]https://www.mckinsey.com/~/media/McKinsey/Industries/Oil%20and%20Gas/Our%20Insights/Global%20Energy%20Perspective%202019/McKinsey-Energy-Insights-Global-Energy-Perspective-2019_Reference-Case-Summary.ashx

[17] https://northwaleseab.co.uk/cy/adnoddau/cais-twf-gogledd-cymru

[18]https://northwaleseab.co.uk/sites/nweab/files/documents/welsh_growth_plan_doc_v4_final.8.feb2018.cleaned.pdf

[19] https://www.becbusinesscluster.co.uk/images/uploads/event-docs/BECBC_-_Member_Presentations_-_Welsh_Gov_-_1_Aug_2018.pdf

[20]https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/720405/Final_Version_BEIS_Nuclear_SD.PDF

[21] https://www.bangor.ac.uk/energy/newyddion-niwclear/prifysgol-bangor-yn-agor-y-sefydliad-ymchwil-niwclear-cyntaf-yng-nghymru-34651

[22]https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Dogfennau-Cyngor/Strategaethau-a-pholisiau/Cynllunio-ac-amgylchedd/Polisi-cynllunio/Cynllun-Datblygu-Lleol-ar-y-Cyd-Gwynedd-a-M%C3%B4n-Datganiad-Ysgrifenedig.pdf

[23] https://www.hitachi.com/New/cnews/month/2019/01/f_190117.pdf

[24] https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/revealed-councils-spent-combined-total-15079393

[25] https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/boris-majority-could-revive-hopes-17488753

[26] https://hansard.parliament.uk/lords/2019-06-10/debates/7BB816E9-6D3F-40B5-8666-239573C7C118/NuclearEnergySmallModularReactors

[27] https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/plan-third-menai-bridge-now-17261324

[28] https://gov.wales/a55-3rd-menai-crossing-overview

[29] https://llyw.cymru/m4-y-coridor-o-amgylch-casnewydd-trosolwg

[30] https://climatenewsnetwork.net/nuclear-power-cannot-rival-renewable-energy/

[31] https://minesto.com/

[32] https://www.youtube.com/watch?v=8e1I7CtZQHY

[33] https://businesswales.gov.wales/enterprisezones/cy/ardaloedd-menter-yng-nghymru/eryri/amdano-parth-eryri

[34] https://llyw.cymru/bwrdd-cynghori-ardal-fenter-eryri/aelodau

[35] https://www.worldnuclearreport.org/The-World-Nuclear-Industry-Status-Report-2019-HTML.html#_idTextAnchor004

[36] http://www.aerospacewalesforum.com/item/snowdonia-aerospace-llp/

[37] https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/peace-protesters-llanbedr-airfield-500k-14022166

[38] https://democratiaeth.cyngor.gwynedd.gov.uk/mgconvert2pdf.aspx?id=19684&

[39] https://gov.wales/written-statement-uk-government-visit-trawsfynydd-smr-and-launch-nuclear-sector-deal

[40] http://www.cambrian-news.co.uk/article.cfm?id=102925&headline=Calls%20to%20reintroduce%20nuclear%20power%20to%20the%20region&sectionIs=news&searchyear=2016

[41] https://www.theyworkforyou.com/whall/?id=2019-02-20a.609.1

[42] https://hansard.parliament.uk/lords/2019-06-10/debates/7BB816E9-6D3F-40B5-8666-239573C7C118/NuclearEnergySmallModularReactors

[43] https://theecologist.org/2019/mar/11/obituary-small-modular-reactors

[44] http://www.sussex.ac.uk/spru/newsandevents/2017/findings/nuclear

[45] https://www.youtube.com/watch?v=vuQjtHKBU58

[46] https://www.newcivilengineer.com/latest/caution-urged-over-modular-nuclear-reactors/10042995.article

[47] https://www.bloomsbury.com/uk/farmageddon-9781408846445/

[48] https://www.cnbc.com/2019/01/16/bridgewaters-ray-dalio-capitalism-is-not-working-for-most-people.html?__source=twitter%7Cmain

[49] https://www.cardiff.ac.uk/research/features/the-truth-about-in-work-poverty

[50] https://www.theguardian.com/money/shortcuts/2020/jan/06/finland-is-planning-a-four-day-week-is-this-the-secret-of-happiness

[51] https://www.ipcc.ch/sr15/

[52] https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/43989649

[53] https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/532140-ysgol-bodffordd-galw-weinidog-ymyrryd

[54] https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/45069572

[55] https://tradeandinvest.wales/sites/default/files/nuclear_sub_sector.pdf

[56] https://tradeandinvest.wales/sites/default/files/north_wales_nuclear_arc.pdf

[57] https://tradeandinvest.wales/sites/default/files/aerospace_booklet.pdf

[58] https://www.youtube.com/watch?v=xzFk4QPdtxg

[59] http://www.biocomposites.bangor.ac.uk/

[60] https://beyondnuclearinternational.org/2018/05/06/leave-uranium-in-the-ground/

[61] https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/48557660

[62] https://www.wcmt.org.uk/about-us/news-events/news-welsh-complementary-currency-piloted-churchill-fellow

[63] https://www.gov.uk/government/publications/uk-house-price-index-wales-february-2019/uk-house-price-index-wales-february-2019

[64] https://www.itv.com/news/wales/2019-06-20/warning-poor-housing-costs-welsh-nhs-95m-every-year/

[65] https://www.ofgem.gov.uk/environmental-programmes/eco

[66] https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Dogfennau-Cyngor/Strategaethau-a-pholisiau/Tai/Asesiad-Marchnad-Tai-Lleol.pdf

[67] https://www.theguardian.com/business/nils-pratley-on-finance/2019/nov/12/hs2-costs-head-north-just-as-its-value-falls-south

[68] http://www.ynniteg.cymru/?lang=cy

[69] http://deg.cymru/

[70] https://openenergymonitor.org/?q=about

[71] https://www.orkney.com/news/reflex-orkney

[72] https://www.bloomsbury.com/uk/farmageddon-9781408846445/

[73] http://tyddynteg.com/

[74] http://www.coca-csa.org/

[75] https://www.nfuonline.com/self-sufficiency-day-farming-growth-plan-needed/

[76] https://lletyarall.org/

[77] http://www.grwpcynefin.org/cy/news/article/grp-cynefin-takes-pride-in-a-local-community-enterprise-siop-griffiths/

[78] https://www.ucl.ac.uk/ioe/news/2019/apr/teachers-are-leaving-profession-due-nature-workload-research-suggests

[79] https://assets.documentcloud.org/documents/5729033/Green-New-Deal-FINAL.pdf

[80] https://www.youtube.com/watch?v=3OMGQoXEVE0

[81] https://www.theguardian.com/us-news/2019/feb/11/green-new-deal-alexandria-ocasio-cortez-ed-markey

[82] https://www.theccc.org.uk/publications/

[83] https://www.iass-potsdam.de/en

[84] https://neweconomics.org/uploads/files/d28ebb6d4df943cdc9_oum6b1kwv.pdf

[85] https://foundationaleconomy.com/introduction/

[86] http://hummedia.manchester.ac.uk/institutes/cresc/workingpapers/wp131.pdf

[87] https://transitionnetwork.org/

[88] https://www.transitiontowntotnes.org/

[89] http://www.wrap.org.uk/sites/files/wrap/Wales_and_the_Circular_Economy_Final_Report.pdf

[90] https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/iaith%20a%20gwaith%202018%20GWE.pdf

[91] http://www.yac.cymru/

[92] http://cwmnibro.cymru/

[93] Antur Aelhaearn : Cyhoeddiadau Mei, 1982

[94] Cryfder ar y Cyd – Hanes Mentrau Cydweithredol yr Eifl :Gwasg Carreg Gwalch, 2012

[95] Strategaeth Llŷn : Antur Llŷn, 1990

[96] W.F. Mackey – Sefydliad Ieithyddiaeth Iwerddon, 1977

[97] Strategaeth Iaith 1991-2001 – Fforwm Iaith Genedlaethol, 1991

[98] “Small is Beautiful: A Study of Economics As If People Mattered” (cyhoeddwyd gyntaf 1973)

[99] http://lucasplan.org.uk/

[100] https://www.caat.org.uk/get-involved/unions/shadow-dda-motion

[101] https://www.caat.org.uk/campaigns/arms-to-renewables/arms-to-renewables-background-briefing.pdf

[102] https://www.caat.org.uk/campaigns/arms-to-renewables/clyde-case-study.pdf

[103] https://www.iwa.wales/news/2019/03/re-energising-wales-how-to-protect-promote-and-achieve-scale-in-community-and-local-ownership-of-renewable-energy-in-wales/

[104] https://www.cat.org.uk/info-resources/zero-carbon-britain/

[105] http://www.energiewende-global.com/en/

[106] https://www.stop-wylfa.org/wp-content/uploads/2019/02/Maniffesto-Mon.pdf

[107]https://d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net/plaid2016/pages/1253/attachments/original/1490103127/Greenprint_PDF_final.pdf?1490103127

[108] http://positivemoney.org/wp-content/uploads/2020/05/Positive-Money-Tragedy-of-Growth-Digital-Single-Pages.pdf