Gweledigaeth

Cyflwyniad

Mae angen mawr am weledigaeth newydd ar gyfer ein cymunedau yng Ngwynedd a Môn. Bwriad cyflwyno’r strategaeth gymunedol hon yw cynnig ffordd arall o edrych ar beth sy’n bwysig i bobl o’u safbwynt nhw. Mae hyn yn golygu rhoi blaenoriaeth i’n cymunedau ni.

Mae’r dudalen hon yn cyflwyno crynodeb o’n gweledigaeth. Medrwch ddarllen fersiwn lawn ein gweledigaeth mewn dogfen pdf neu ar y dudalen we hon.

Mae’r flaenoriaeth a roddwyd, ac a roddir, i gyfalafiaeth, twf economaidd ac elw o flaen popeth arall, gan obeithio y bydd cyfoeth yn llifo o’r brig i lawr, wedi methu. Yn ogystal, mae polisi llymder Llywodraeth San Steffan wedi rhwygo ein hardaloedd a gwasgu ein Cynghorau Sir i’r fath raddau fel y gwelwn eu bod yn gorfod cyfiawnhau polisïau amhoblogaidd – ac yn gwrthdaro efo’r bobl leol o ganlyniad. Nid fel hyn mae pethau i fod.

Mewn ardal gymharol dlawd, hawdd deall pam fod croeso gan gynghorau i gynlluniau rhwysgfawr. Ni ddylai’r gair “Swyddi” ein dallu i’r angen i ofyn cwestiynau sylfaenol am natur y diwydiannau, pwy gaiff y swyddi, a phwy sy’n elwa, a sut broblemau ddaw i’w canlyn – i bobl a’r amgylchedd.

Yn amlwg, nid yw goresgyn problemau’r degawdau olaf yn mynd i fod yn hawdd. Mae ymdeimlad o anobaith yn amlwg mewn ardaloedd, pentrefi a threfi sy wedi colli llawer iawn o’r sefydliadau a ystyrid yn gonglfeini – ysgol, banc, stryd fawr brysur, meddygfa ayyb.

Yn gefnlen i hyn oll, fedrwn ni ddim diystyru beth sy’n digwydd yn y byd mawr. Yn benodol, yr argyfwng hinsawdd, colli bioamrywiaeth a chynefinoedd, llygredd, pendraw twf economaidd, newid yn y syniadaeth o “waith”, datblygiadau technolegol ym maes ynni a sawl maes arall, crynhoi cyfoeth mewn llai a llai o ddwylo. Tra’n cydnabod fod ein gallu i weithredu ar lefel leol yn gyfyngedig, eto i gyd gallwn wneud llawer drosom ni ein hunain.

Craidd ein gweledigaeth yw mai cymuned yw sail nid yn unig economi – ond llawer o’r pethau sy’n cyfoethogi bywyd hefyd.

Dyna pam mae isadeiledd cymdeithasol gyda cyfleusterau hwylus i bobl mor bwysig. Mae angen gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer bywyd i’r anialwch sydd yn amlwg yng nghymaint o’n trefi a’n pentrefi. Bydd bywydau’r trigolion yn gwella o ganlyniad.

Canllawiau Meddwl SAIL

Erbyn hyn mae gweithredu i amddiffyn ein hamgylchedd yn bwysig i nifer cynyddol o bobl.  Cyflymodd y broses o ddihysbyddu a llygru adnoddau’r ddaear ers y Chwyldro Diwydiannol – y bu Cymru â rhan flaenllaw yn ei arwain.  Bellach, mae’n amlwg na ellir dal ati fel o’r blaen neu wynebwn drychineb o ran hinsawdd, bioamrywiaeth, bwyd ac yn y pendraw gallu dynoliaeth i oroesi.  Yn ein hardaloedd ni, dylem ystyried pob datblygiad yng ngoleuni hyn.

Fedrwn ni ddim aberthu a rheibio tiroedd, mwynau, llynnoedd a moroedd fel a wnaed yn y gorffennol.

Byddai hyn yn digwydd os gwireddir rhai o’r cynlluniau cyfredol.

Hen stori cyfalafiaeth yw rhoi elw masnachol o flaen buddiannau a gwerthoedd pobloedd, cymunedau a’r amgylchedd. Dwyshau mae’r bygythiadau sy’n codi o hyn wrth i broblemau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y drefn gynyddu.

Yn nannedd argyfwng cyfalafiaeth trawswladol mae cymunedau ar hyd a lled y byd yn ymrymuso ac yn datblygu atebion amgen ar gyfer tawsnewid y drefn, o’r gwaelod i fyny.

Dyna mae SAIL yn ei wneud ac rydym yn rhannu gweledigaeth gyda chymunedau o Califfornia i Cwrdistan.

Rydym yn dadlau y dylid trawsnewid polisïau datblygiad economaidd llywodraethau canol a lleol i gyfeiriad cefnogi’r hyn a elwir yr ‘economi sylfaenol’. Yn hyn o beth rydym yn adleisio gweledigaeth nifer cynyddol o economegwyr a lluniwyr polisïau.  Mae lladmeryddion yr economi sylfaenol yn dadlau na ddylai cefnogi ychydig o gwmnïau technoleg uwch trawswladol fod yn brif amcan polisi datblygiad economaidd llywodraethau canol a lleol fel ag y mae ar hyn o bryd. Yn hytrach,  dylai llywodraethau flaenoriaethu cefnogi cymunedau a’r economi sylfaenol.

Mae traddodiad o fenter cymunedol yn rhedeg trwy hanes Cymru ac mae cyfle i adeiladu ar yr etifeddiaeth hwn. Y sialens yw addasu’r traddodiad cyfoethog hwn o fenter cymdeithasol ar gyfer creu ein dyfodol.
Credwn bod y model integredig a chyfannol o ddatblygu cymunedol yn cynnig patrwm y gellir ei ddatblygu a’i ehangu. Ymhellach, drwy asio’r model gydag egwyddorion ac ymarfer yr economi sylfaenol, ar sail ymchwil i natur y gymuned, cynigir ffordd ymlaen ar gyfer datblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cymunedau ar draws Cymru a thu hwnt.

Trwy fabwysiadu’r model o ddatblygu cymunedol ac asio’r model gydag egwyddorion ac ymarfer yr economi sylfaenol credir bod potensial i drawsnewid economi a chymunedau Cymru.  Bwriad SAIL yw cynnig strategaeth a maniffesto economaidd a chymunedol ar gyfer dyfodol amgen i Wynedd a Môn.  Bydd y maniffesto yn cynnwys gwahanol adrannau ar y camau y gallesid eu cymeryd gan unigolion, cymunedau, cynghorau cymuned a sirol, asiantaethau datblygu a Llywodraethau Cymru, y Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd.

Law yn llaw ag hyrwyddo model, maniffesto a mudiad cymunedol mae angen ystyried nid yn unig yr amcan ond hefyd y modd i drawsnewid y drefn.

DIFFYGION Y STRATEGAETH SWYDDOGOL PRESENNOL

Cynhyrchodd gweithwyr Gwynedd a Môn gynnyrch a gwasanaethau aruthrol ond eraill fanteisiodd fwyaf ar lafur ac adnoddau naturiol y rhanbarth.

Er cynhyrchu’r fath gyfoeth ac er y dylem fod yn gymunedau economaidd ffyniannus rydym, mewn gwirionedd, bellach ymysg tlodion Ewrop.

Heb berchenogaeth a rheolaeth dros ein hadnoddau parhad o hyn fydd ein hanes.

Dydi cynlluniau mawr y gorffennol, megis Trawsfynydd,  Wylfa A ac Aliwminiwm Mon,  ddim wedi datrys y broblem – byddai rhai yn dadlau eu bod wedi gwaethygu pethau.

Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cefnogi Cais Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru “ble bo ffocws y twf economaidd ar arloesedd mewn sectorau economaidd gwerth uchel”.

Yr enghraifft amlycaf yw Wylfa B, sydd bellach wedi ei atal.  Y gwir plaen yw fod dyfodol economaidd Ynys Môn a Gwynedd wedi cael ei osod yn ddi-gwestiwn yn nwylo ychydig o bobl mewn ystafell yn Tokyo – sef bwrdd Cwmni Hitachi.

STRATEGAETH GYMUNEDOL AR GYFER GWYNEDD A MÔN

Yn ei hanfod, sail ein strategaeth yw hyn:

Economi i wasanaethu pobl yn eu cymunedau a gwella yr amgylchedd naturiol a diwylliannol.

Nid yw’r syniad o “Dwf Economaidd” yn y dull cyfredol yn gynaliadwy bellach.  Pan na fydd angen pobl, pan fydd yr adnoddau naturiol wedi darfod, neu pan fydd proses newydd yn eu disodli, yna bydd y peiriant cyfalafol yn symud ymlaen heb gymryd cyfrifoldeb am y niwed a wnaed.  Gwelwn hyn  yn ardaloedd y chwareli ac ardal y diwydiant copr (Amlwch), ac ym myd amaeth gwelwn ddiboblogi gan fod angen llai a llai o weithwyr, a ffermio dwys sy’n gallu arwain at broblemau amgylcheddol.

Mae’r strategaeth yn herio natur nifer o gynlluniau a gefnogir  gan y sefydliad gwleidyddol –  cynlluniau sydd hefyd, i raddau helaeth, yn diystyru newidiadau yn y byd mawr tu allan.

Cynlluniau a fyddai’n niweidiol i’n cymunedau, i’n hiaith a’n diwylliant, ac i’n hamgylchedd.

Strategaeth yw hon sy’n ymateb i’r teimlad o anobaith ymysg ein cymunedau sy’n deillio o genedlaethau o esgeulustod economaidd gan Lywodraethau canolog.

Ein cred yw fod gwell gobaith i’n heconomi oroesi’n wydn os y bydd yn datblygu o’r gwaelod i fyny.  Mae’r  pwyslais ar ateb gofynion lleol yn hytrach na gofynion cyfalafiaeth.  Credwn mai diben economi lewyrchus a gwaith yw creu amodau byw boddhaol i bawb.  Mae hyn yn golygu tai, gwaith ac iechyd.

Yr economi sylfaenol yw’r sector o’r economi sy’n cyflogi 40% o’r gweithlu, sy’n rhannol gyhoeddus ac yn rhannol breifat, sy’n darparu’r nwyddau a gwasanaethau a gymerir yn ganiataol ac sydd eu hangen gan bawb ac sydd felly wedi’u hangori yn ein cymunedau. Mae’r economi sylfaenol, yn ei hanfod, yn gymdeithasol a chymunedol.

Mae gweledigaeth SAIL yn cwestiynu ffordd y sefydliad o feddwl am amgylchedd, economi, cymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant.

Yn unol â syniadaeth yr economi sylfaenol mae dau set o syniadau wrth wraidd gweledigaeth SAIL ac fe’u nodir isod.

  1. Mae lles a ffyniant pobl yn dibynnu llai ar brynu nwyddau a gwasanaethau ar gyfer unigolion a mwy ar y ddarpariaeth o nwyddau a gwasanaethau cymunedol. Pethau fel y cyflenwad dŵr, ysgolion, ysbytai, banciau a chartrefi gofal. Mae gwariant yr unigolyn yn dibynnu ar incwm yr unigolyn ond mae’r defnydd o nwyddau a gwasanaethau cymunedol yn ddibynnol ar y ddarpariaeth gymunedol.
  2. Felly, prif swyddogaeth polisïau cyhoeddus ddylai fod i sicrhau gwasanaethau sylfaenol gwell ar gyfer pawb yn hytrach na’r obsesiwn unllygeidiog gyda thwf economaidd a chynyddu’r nifer o swyddi heb ystyried eu hansawdd na’u gwerth.

CASGLIAD

Dydyn ni ddim yn honni fod yr atebion i gyd gennym.

Dechrau trafodaeth yw ein bwriad, nid cynnig atebion manwl ar gyfer pob cymuned ac ardal unigol.  Ond y gobaith yw y bydd yr atebion penodol hynny yn cael eu llunio gyda’r egwyddorion a’r meddylfryd a drafodwyd yma.

Ein gobaith yw ysgogi pobl i feddwl yn greadigol ac o’r newydd.  Meddwl fod yna ffyrdd gwahanol o fesur llwyddiant.  Meddwl fod yna ffyrdd gwahanol o roi to uwch pennau ein pobl.  Meddwl fod yna ffyrdd cynaliadwy o ddefnyddio ein tiroedd a’n moroedd.  Meddwl fod modd creu gwaith er mwyn pobl nid er mwyn cyfalaf estron.  Mae’r bobl fedr wneud hyn gennym yn ein cymunedau – os cawn nhw gelfi addas i’r gwaith.

Yn syml, prif wers ein hanes ydi bod rhaid i ni yn ein cymunedau ddeall ein sefyllfa heddiw a meddiannu’r dyfodol.